Comed a welwyd ddiwethaf gan Neanderthaliaid yn weladwy dros y penwythnos
Yn dilyn golygfeydd Llewyrch yr Arth dros Gymru yn ystod yr wythnos fe fydd digwyddiad arall o’r gofod i’w weld yn y ffurfafen dros y penwythnos.
Fe fydd comed a oedd yn weladwy ddiwethaf o'r Ddaear pan oedd Neanderthaliaid yn fyw i'w weld y penwythnos hwn, medd gwyddonwyr.
Mae Comet A3 (Tsuchinshan-ATLAS) wedi cael ei alw’n “gomed y ganrif” oherwydd pa mor llachar a gweladwy y gallai fod, yn ôl y Gymdeithas Seryddol Frenhinol (RAS).
Dywedodd seryddwyr y byddai wedi bod yn weladwy ddiwethaf o'n planed tua 80,000 o flynyddoedd yn ôl, a dim ond ym mis Ionawr 2023 y cafodd ei ddarganfod.
Mae seryddwyr yn hemisffer y de eisoes wedi cael cipolwg ar Gomed A3 ond erbyn hyn mae i’w weld hefyd yn hemisffer y gogledd, meddai’r gymdeithas.
Rhwng Hydref 12 a 30, y bydd modd i bobl yn weld y gomed ychydig uwchben y gorwel yn y gorllewin gan ddefnyddio ysbienddrych neu hyd yn oed gyda'r llygad noeth gan ddibynnu ar y tywydd.
Dywedodd gwyddonwyr y gallai fod yn bosibl tynnu lluniau o’r gomed, yn enwedig gan ddefnyddio camera digidol atgyrch.
Yn ôl yr RAS, daw’r gomed o Gwmwl Oort – cragen sfferig anferth sy’n amgylchynu ein cysawd yr haul ac yn cynnwys biliynau o wrthrychau gan gynnwys comedau.
Llun: Wochit