Newyddion S4C

Cymru yn ildio mantais dwy gôl mewn gêm gyfartal yng Ngwlad yr Iâ

Gwlad yr Ia v Cymru 2024 (FAW)

Roedd hi’n gêm o ddwy hanner yn Reykjavik nos Wener wrth i Gymru ddianc gyda phwynt yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Fe wnaeth Cymru fynd ar y blaen wedi 11 munud, gyda Brennan Johnson yn rhwydo o lathen ar ôl i ergyd Harry Wilson gael ei harbed.

Roedd y Cymry yn edrych yn llawn hyder, ac fe ddaeth Wilson yn agos i ddyblu’r fantais pan wnaeth ei ymdrech wyro yn erbyn gwaelod y postyn.

Ond wedi 29 munud, fe gafodd y chwaraewr canol cae ei gôl haeddiannol, gan rwydo gydag ergyd esmwyth yn dilyn pas hyfryd gan Neco Williams.

Cafodd Brennan Johnson ei eilyddio yn ystod hanner amser, ac fe wnaeth y tîm cartref lwyddo i godi eu safon yn sylweddol.

Fe wnaeth Danny Ward dau arbediad campus wrth i’r pwysau gynyddu gan Wlad yr Iâ.

Ac fe wnaeth mantais Cymru diflannu yn llwyr o fewn tri munud wrth i’r Gleision sgorio dwywaith o fewn cyfnod byr iawn.

Fe rwydodd yr eilydd Logi Tomasson yn gampus wedi 69 munud, cyn gorfodi ail gôl tri munud yn ddiweddarach, gydag ergyd wedi gwyro i gôl ei hun gan y golwr, Danny Ward.

Y postyn oedd yn gyfrifol am gadw Cymru yn y gêm yn yr 89fed munud wrth i Jon Dagur Thorsteinsson ddod o fewn trwch postyn o roi'r tîm cartref ar y blaen.

Ond yn y diwedd, fe lwyddodd y Cymry i dal ymlaen a gadael Reykjavik gyda phwynt gwerthfawr.

Gêm gartref yn erbyn Montenegro nos Lun sydd nesaf i’r Cochion, ond bydd yn rhaid ei chwarae heb Jordan James a Brennan Johnson, wedi i’r ddau gael ei wahardd ar ôl derbyn cardiau melyn nos Wener.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.