Newyddion S4C

Dyn 30 oed yn euog o lofruddio dyn gyda chyllell mewn maes parcio ysbyty

Conall Evans

Mae dyn 30 oed wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth Conall Evans, a fu farw yn dilyn ymosodiad gyda chyllell ger Ysbyty Cwm Rhondda ddechrau’r flwyddyn.

Bu farw Mr Evans, 30 oed o Bentre yn Rhondda Cynon Taf wedi iddo gael ei anafu’n ddifrifol mewn ymosodiad ym maes parcio’r ysbyty yn Nhonypandy.

Fe gafodd ei ganfod yno yn ystod oriau man y bore ar 1 Ionawr 2024, ag yntau wedi dioddef clwyf i’w frest. Bu farw yn ddiweddarach yn sgil ei anaf.

Mae Ashley Davies, 30 oed, o Stryd Forge ym Mhentre, bellach wedi ei gael yn euog o’i lofruddio yn Llys y Goron Ferthyr Tudful ddydd Gwener. 

Fe ddaw ei euogfarn yn dilyn achos llys 10 diwrnod o hyd, a gychwynnodd ar 30 Medi. 

Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio Heddlu De Cymru, yr Arolygydd Dai Butt ei fod yn gobeithio y byddai’r euogfarn yn helpu teulu Mr Evans “ddechrau’r broses anodd o symud ymlaen”. 

“Fe gafodd bywyd Conall ei dorri’n fyr gan weithredoedd barbaraidd Ashley Davies, ag yntau’n bellach wynebu treulio cyfnod sylweddol yn y carchar,” meddai. 

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddydd Gwener 18 Hydref. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.