'Diffyg parch': Trysorlys y DU yn 'tanseilio' Llywodraeth Cymru

14/10/2024
HS2

Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi dweud bod Trysorlys Llywodraeth y DU yn “tanseilio” Llywodraeth Cymru - ac yn galw am newidiadau sylfaenol er mwyn mynd i’r afael â’u perthynas. 

Dywedodd y pwyllgor cyllid y dylai Llywodraeth y DU fod yn “fwy tryloyw” gyda'u penderfyniadau cyllido yn y dyfodol, a rhoi'r gorau i ddangos “diffyg parch” at ddatganoli.

Mae’r pwyllgor yn galw ar i Lywodraeth Cymru gael mwy o rôl yn y broses o gategoreiddio prosiectau mawr i sicrhau na fydd y Trysorlys yn gwneud penderfyniadau annibynnol a fyddai'n cael effaith sylweddol ar lefelau ariannu yng Nghymru.

Roedd hynny'n cynnwys ar bwnc rheilffordd HS2 rhwng Llundain a Birmingham oedd wedi ei ddynodi yn brosiect ‘Cymru a Lloegr’ gan olygu nad yw Cymru'n gymwys i gael arian ychwanegol o gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill.

Dylai’r llywodraeth hefyd egluro a yw arian parod sy’n cael ei ddarparu i Gymru o reidrwydd yn “arian newydd” yn hytrach ‘na chyllid sydd eisoes wedi’i gyhoeddi, meddai'r pwyllgor cyllid.

'Angen aeddfedrwydd'

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, fod gwleidyddion yn Llundain yn “esgus nad yw datganoli yn bodoli.”

“Mae’r Pwyllgor yn galw am aeddfedrwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dylai hysbysu’r llywodraethau datganoledig am gyhoeddiadau gwariant sy’n effeithio arnynt gael ei ymgorffori yn y system, yn hytrach na gadael y mater i weinidogion unigol,” meddai.

Dywedodd y pwyllgor hefyd fod Trysorlys y DU yn dueddol o drin Llywodraeth Cymru “fel petai’n adran arall o Lywodraeth y DU” gan ddweud bod yn rhaid i’r llywodraethau datganoledig gael cyfle i ddod at ei gilydd cyn i ddatganiadau gwariant gael eu cyhoeddi. 

Ychwanegodd bod yna “ddiffyg ymgysylltiad” gan Drysorlys y DU.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Lafur newydd y DU eu bod bellach wedi “ail-osod” eu perthynas gyda Llywodraeth Cymru.

A dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “croesawu" perthynas sydd wedi'i hadnewyddu a’u bod yn rhannu’r un weledigaeth i Gymru.

Ychwanegodd eu bod yn diolch i’r pwyllgor am eu hawgrymiadau ac mi fyddant yn eu hystyried mewn manylder. 

Prif lun o'r HS2
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.