
Teulu o Flaenau Ffestiniog yn sefydlu grŵp Parkinson’s er cof am dad a thaid ‘arbennig’
Teulu o Flaenau Ffestiniog yn sefydlu grŵp Parkinson’s er cof am dad a thaid ‘arbennig’
Mae teulu o Flaenau Ffestiniog wedi sefydlu grŵp cefnogi Parkinson’s yn y dref er cof am dad a thaid “arbennig”.
Bu farw Brian Lloyd Jones yn 74 oed ym mis Chwefror yn dilyn brwydr pedair blynedd gyda chyflwr Parkinson’s.
Mae’r cyflwr niwrolegol yn amharu ar allu’r ymennydd i greu’r cemegyn dopamin, ac mae hynny’n lleihau gallu’r corff i reoli symudiad.
Yn ôl Parkinson’s UK, mae’r cyflwr yn effeithio ar tua 8,300 o bobl yng Nghymru, ac ar hyn o bryd, nid oes meddyginiaeth sy’n gallu cynnig gwellhad.
Gobaith teulu Mr Jones yw y bydd sefydlu grŵp cefnogi Parkinson's ym Mlaenau Ffestiniog yn cynnig cymorth i'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr a'u hanwyliaid yn yr ardal – a hynny yn sgil “diffyg cefnogaeth leol” medden nhw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw am sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yn cael eu cefnogi "lle bynnag y maen nhw'n byw".
‘Dyn cryf ac annibynnol’
Fe dderbyniodd Mr Jones ddiagnosis o Parkinson’s yn 70 oed yn 2019.
Dywedodd ei ferch, Nia Jones, fod ei symptomau wedi datblygu'n raddol i ddechrau.
“Roedd Dad yn ddyn cryf ac annibynnol oedd ‘di trafeilio’r byd i gyd,” meddai.
“O'dd o ‘di gweithio mewn dipyn o wahanol feysydd, yn enwedig dreifio – bysus, loris. O'dd o’n licio motorbeics. Ac yn ei amser hamdden, trafeilio’r byd oedd ei betha fo – a motorbeics.”

“Ond pan ddaru o stopio gallu gweithio ar ei feics – o'dd o'n licio tincran a ballu, o'dd ei ddwylo fo ddim yn gweithio mor dda ag oeddan nhw – oedd hynna’n galed iawn arno fo,” meddai ei ferch arall, Non Roberts.
“Ac wedyn wrth gwrs oedd o’m yn cael dreifio ddim mwy, oedd hwnna’n ergyd mawr.”
Ychwanegodd Ms Roberts bod ei thad wedi “dirywio’n sydyn” ar ôl rhoi’r gorau i yrru.
“Pan nath o stopio gallu gneud petha, natho ni weld dirywiad sydyn ynddo fo bryd hynny,” meddai.
“O'dd o’n drist iawn i weld, a gwbo be i neud.”
‘Dim cefnogaeth leol’
Wrth i symptomau Mr Jones waethygu, roedd angen mwy o gymorth arno ef a’i deulu.
Ond yn ôl Ms Roberts, doedd yna “ddim cefnogaeth leol” ar gael ym Mlaenau Ffestiniog a'r cyffiniau.
Yn dilyn marwolaeth Mr Jones, fe benderfynodd ei deulu i gyfrannu’r arian oedd wedi ei godi yn ei angladd i sefydlu grŵp cefnogi Parkinson’s yn y dref.
Bydd y grŵp yn cyfarfod yn Y Ganolfan ar Ffordd Wynne ar y trydydd dydd Mercher o bob mis, rhwng 11.00 ac 13.00, gyda’r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 16 Hydref – ac mae croeso i unrhyw un, o unrhyw ardal i ymuno.
“Mae’r grŵp yn mynd i alluogi pobl fel Dad i gael cefnogaeth gan bobl sy’n deall be mae’n mynd trwy, achos does ‘na ddim byd ar lefel lleol,” meddai Ms Roberts.
“Fel arfer efo elusennau mawr, mae’r arian yn mynd i achos da wrth gwrs, ond anaml iawn ti’n gweld gwasanaeth lleol yn dod allan ohono fo.”
Fel rhan o'r cynlluniau, bydd y grŵp yn gweithio gyda Parkinson's UK Cymru i sicrhau fod gan bobl gyda Parkinson's rhywle i gymdeithasu ac i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol sy'n gallu helpu eu symptomau.
Dywedodd Ms Roberts ei fod yn bwysig i bobl sy'n byw gyda Parkinson's i gael gofod o'r fath.
“Mae’r grŵp yn mynd i fod yn rwla saff i bobl gael trafod efo'i gilydd petha maen nhw’n mynd trwy, achos ma’n anodd i ni wbod yn union,” meddai.
“Er bod ni’n gweld be o'dd yn digwydd iddo fo, o'dda ni ddim yn gwbod sut o'dd o’n teimlo.”

Dywedodd Dawn McGuinness, rheolwr datblygu cymunedol Parkinson’s UK Cymru, ei bod yn heriol sicrhau cefnogaeth i bobl gyda Parkinson’s yng Nghymru.
“Mae’n sialens yng Nghymru i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd y gwasanaethau oherwydd bod cymaint yn byw mewn ardaloedd gwledig,” meddai.
“Felly mae’n bwysig bod grwpiau fel hwn sy’n dechrau ym Mlaenau Ffestiniog yn cael eu sefydlu, i ni wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gefnogaeth maen nhw eisiau yn agos i adref.”
Ar hyn o bryd mae 25 o grwpiau cefnogi yng Nghymru, ond dim ond dau o’r rheini sydd gerllaw – gydag un ym Mermo, ac un yn Llandudno.
Fodd bynnag, dywedodd Ms McGuinness bod yna “bwysau” ar gymunedau ar draws y DU i gefnogi pobl gyda Parkinson’s yn sgil diffyg staff meddygol.
“Mae ‘na bwysau lle bynnag mae pobl yn byw, felly dyna pam mae’n bwysig i ni weithio efo’r sectorau iechyd, cymdeithasol ac elusennol i roi’r gefnogaeth iawn ar yr amser iawn,” meddai.
“Ac mae’n bwysig iawn i ni gydnabod y cyfraniad arbennig mae gymaint o unigolion yn ei wneud heb dal wrth iddynt ofalu am bobl sy’n byw efo Parkinson’s.”

Yn ôl Ms Roberts, byddai ei thad yn “falch” o gefnogi ei gymuned.
“Dw i’n meddwl ‘sa fo’n rili falch o wbod bod yr arian sy ‘di cael ei godi er cof amdano wedi mynd yn ôl i’n cymuned ni i helpu pobl fatha fo,” meddai.
“Oedd o’n falch iawn o’i gymuned.”
'Sicrhau cymorth lle bynnag maen nhw'n byw'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym am sicrhau bod pobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol, neu sy’n cael eu heffeithio gan gyflyrau niwrolegol, gan gynnwys Parkinson's, yn cael eu cefnogi cystal â phosibl trwy gael mynediad teg ac amserol at wasanaethau o ansawdd uchel, lle bynnag y maen nhw'n byw.
“Mae hyn wrth galon ein Datganiad Ansawdd Ar Gyfer Cyflyrau Niwrolegol sy’n nodi ein disgwyliadau o fyrddau iechyd.”