Newyddion S4C

Ynys Môn: Dyn oedd â ‘lluniau anweddus eithafol’ gan gynnwys ceffyl a chrwban yn osgoi carchar

Crwban a Llys y Goron Caernarfon

Mae dyn o Ynys Môn oedd â lluniau o gam-drin plentyn ac anifeiliaid ar ei ffôn wedi osgoi carchar.

Roedd y lluniau yn cynnwys clipiau o weithgarwch rhywiol yn ymwneud â cheffyl, ci - a chrwban.

Dywedodd James Owen, 30, o Nant y Mynydd, Llanfechell, Ynys Môn, wrth blismyn bod y delweddau o anifeiliaid wedi eu hanfon ato “fel jôc”.

Nid oedd wedi sylweddoli eu bod nhw’n anghyfreithlon, clywodd llys y goron Caernarfon, oedd yn eistedd yn Llandudno.

Dywedodd Sion ap Mihangel, oedd yn amddiffyn, bod James Owen wedi bod yn disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddod i ben ers dwy flynedd. 

“Mae’n teimlo cywilydd llethol,” meddai.

Cyfaddefodd Owen fod ganddo'r delwedd o gam drin plentyn a bod ganddo bornograffi eithafol yn ei feddiant. 

Derbyniodd chwe mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis, a bydd rhaid iddo wneud 100 awr o waith di-dâl.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts y byddai angen iddo dderbyn triniaeth alcohol am chwe mis a bydd rhaid i Mr Owen gofrestru fel troseddwr rhyw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.