Achos Neil Foden: Angen i arweinydd Cyngor Gwynedd ‘feddwl eto’ am ymddiheuro meddai Rhun ap Iorwerth
Mae angen i arweinydd Cyngor Gwynedd “feddwl eto” am ymddiheuro yn achos y pedoffeil Neil Foden, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth
Mae Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd - sy'n cael ei reoli gan grŵp Plaid Cymru - wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y prifathro.
Dywedodd ar Newyddion S4C nos Iau ei fod wedi dweud “os bydd unrhyw fai ar y Cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro”.
Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod angen “ailystyried” hynny am ei fod yn amlwg bod rywbeth wedi mynd o’i le.
“O ran y cwestiwn o ymddiheuriad sŵn i yn gofyn i Dyfrig jyst feddwl eto ynglŷn â’r cwestiwn honno,” meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Gwener.
“Achos i fi mae ymddiheuro yn rhywbeth a ddylai fod yn eitha’ hawdd ar y pwynt yma.
“Da ni ddim yn gwybod beth aeth o’i le. A dyma pam ein bod ni angen yr ymchwiliad neu beth bynnag sydd angen ei wneud.
“Un grŵp o bobl sy’n bwysig yn fan hyn - y dioddefwyr.”
Ychwanegodd: “Dwi’n gofyn iddo fo jyst ailystyried hynny achos da ni ddim yn gwybod yn union am be ydan ni’n ymddiheuro o ran beth aeth o’i le, da ni’n gwybod bod pethau wedi mynd o’i le.
“A dysgu o hynny fel bod neb yn gorfod mynd drwy hyn eto ydi’r mater."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1844448411384156510
Ymchwiliad cyhoeddus
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
Mae rhaglen BBC Wales Investigates, My Headteacher the Paedophile wedi datgelu honiadau pellach o gam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr.
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dan gadeiryddiaeth annibynol Jan Pickles OBE.
Ond mae arweinydd Plaid Cymru a rhai o aelodau etholedig y blaid wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i beth aeth o’i le.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn nad oedd yn cefnogi'r galwadau rheini gan ddweud “fod angen ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn a dw i’n meddwl mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant ydi’r ffordd orau i wneud hynny”.
Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth fore Gwener ei fod wedi bod yn “agored iawn” ei fod yn credu bod angen ymchwiliad cyhoeddus.
“O ran ymchwiliad cyhoeddus dw i 'di bod yn agored iawn â grŵp y blaid ar Gyngor Gwynedd ac aelodau etholedig eraill,” meddai.
“Mae eisiau gwneud beth bynnag sydd angen ei wneud i ddod at y gwir dros beth sydd wedi digwydd, sy’n sicr yn cynnwys ymchwiliad cyhoeddus.”
Ychwanegodd: “Wrth wraidd hyn wrth gwrs mae yna bedoffeil. Neil Foden. A fo sydd wedi achosi hyn.
“Ond mae angen i ni ganfod sut wnaeth o allu gwneud hyn a pa weithdrefnau allai fod wedi bod yn wahanol i atal hynny fel ein bod ni'n dysgu gwersi.
“Mae gen i hyder bod Cyngor Gwynedd ag yntau yn deall yr angen i wneud beth bynnag sydd ei angen i ddod at y gwir.
“Mae trefniadaeth grŵp Cyngor Gwynedd i fyny i grŵp Cyngor Gwynedd wrth gwrs.
“Dw i’n canolbwyntio ar un grŵp o bobl fan hyn - y dioddefwyr.”