Newyddion S4C

Sir Benfro sydd 'bia'r Steddfod' fydd yn cwmpasu tair sir yn 2026

Sir Benfro sydd 'bia'r Steddfod' fydd yn cwmpasu tair sir yn 2026

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud mai Sir Benfro fydd "bia'r 'Steddfod" a fydd yn cwmpasu tair sir yng ngorllewin Cymru.

Llantwd yng ngogledd y sir fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2026, pentref tair milltir o Aberteifi sef ail dref fwyaf Ceredigion.

Cafodd cyfarfod ei gynnal yn neuadd Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych nos Iau wrth ddechrau'r gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn y fro.

Mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C dywedodd Betsan Moses y bydd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn "cynorthwyo i wireddu'r" brifwyl ymhen dwy flynedd.

“Mae’n ‘Steddfod sydd yn Sir Benfro a Sir Benfro sydd bia’r ‘Steddfod," meddai.

“Ond hefyd mi fydd 'na ffrindiau dros y dalgylch yn Sir Gâr a Cheredigion yn cynorthwyo i wireddu’r ‘Steddfod.

"Gan ei bod hi yn y gogledd [Sir Benfro] ma’ ‘na gyfle i bobl yn y siroedd eraill i gymryd rhan hefyd. Ond mi fydd de’r sir yn rhan ganolog hefyd."

'Cyfle'

Un oedd yn flaenllaw wrth ddenu'r Eisteddfod i Lantwd oedd y Cynghorydd John Davies.

Dywedodd y cynghorydd bod Sir Benfro'n barod am yr her o gynnal yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers Tyddewi chwarter canrif yn ôl.

“Mae o hyd yn her, pa bynnag sir y’ch chi’n mynd i," meddai. "Yn enwedig yn ddaearyddol mae’n sir sylweddol o faint.

“Ond mae ‘na gyfle fan hyn, chwarter canrif ddaru hi fod yn Nhyddewi ac mae’r gwaddol ieithyddol tipyn yn wahanol nawr, yn bositif iawn.

"Ma’ na stori dda gyda ni i ddweud ar draws y sir, A gyda’n cymdogion wrth ein hochr ni yn cefnogi ni hefyd."

Fe fydd yr Eisteddfod yn 2026 hefyd yn nodi 850 mlynedd ers i'r cyntaf cael ei chynnal yn Aberteifi.

“Ma’ safle Llantw yn unigryw yng nghyd-destun hanes yr Eisteddfod. Mae’n eistedd ar dop Dyffryn Teifi, edrych lawr ar gastell Aberteifi lle oedd y ‘Steddfod gyntaf 850 mlynedd yn ôl," meddai'r Cynghorydd Davies.

“Ac wrth gwrs mae rhai o ni’n digon hen i gofio’r 800fed Steddfod yn 1976 hefyd."

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.