'Mick Jagger' yn codi £50,000 ar daith 450 milltir o Dyddewi
Mae dyn a newidiodd ei enw i Mick Jagger yn un o chwech o bobl sydd wedi codi dros £50,000 ar daith gerdded chwech wythnos o Dyddewi.
Cerddodd y grŵp 450 milltir o ddinas leiaf Cymru i Ditchingham ar arfordir dwyreiniol Lloegr i gefnogi elusen Emmaus sy'n codi arian i helpu'r digartref.
Newidiodd Mick Jagger ei enw ar gyfer dechrau newydd yn ei fywyd wedi iddo ef brofi cyfnod yn ddigartref.
Roedd y criw yn cerdded ar hyd y Via Beata, llwybr pererindod newydd rhwng Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Lowestoft yn Suffolk sef tref mwyaf dwyreiniol y Deyrnas Unedig.
"Am tua 40, 50 o flynyddoedd roeddwn i'n gamblo llawer," meddai Mick Jagger.
"Dwi wedi bod yn ddigartref nifer o weithiau ar hyd y blynyddoedd.
"Doeddwn i ddim yn hoffi pwy oeddwn i.
"Newidiais yr enw i Mick Jagger achos roedd pobl yn fy ngalw i'n Jagger pan oeddwn i'n blentyn, felly meddyliais pam ddim newid fy enw i Mick Jagger."
Ychwanegodd ei fod wedi cymryd rhan yn y daith i godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd ac i geisio helpu'r rhai oedd mewn sefyllfa debyg iddo.
Cyrhaeddodd y pererinion ben y daith dydd Iau, 10 Hydref sef Diwrnod Digartrefedd y Byd.