Carcharu dyn o’r cymoedd am alw am losgi mosgiau ar Facebook
Mae dyn o’r Rhondda wedi ei garcharu am ddwy flynedd am alw am losgi mosgiau i lawr ar Facebook.
Cafodd Geraint Boyce, o Benrhiw-fer, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau.
Roedd wedi cyhoeddi’r negeseuon Facebook yn ystod y terfysgoedd yn gynharach eleni.
Plediodd Boyce yn euog i gyhoeddi deunydd bygythiol gyda'r bwriad o ysgogi casineb crefyddol.
Rhannodd y tad i dri'r sylwadau ar 31 Gorffennaf gan gynnwys rhai a oedd yn galw am losgi mosgiau gyda “y bastardiaid y tu mewn”.
Dywedodd Alex Orndal ar ran yr erlyniad wrth y llys fod y negeseuon wedi’u gwneud yn dilyn y trywanu yn Southport a’r terfysgoedd a ddilynodd.
Dywedodd fod y sylwadau wedi’u gwneud ar broffil Facebook cyhoeddus o’r enw “Boyce’s Plumbing”.
Wrth gael ei arestio, gofynnodd Boyce wrth swyddogion yr heddlu a oedd hynny “oherwydd y pethau ar-lein yn ymwneud â’r terfysgoedd”.
Dywedodd Alex Orndal wrth y barnwr fod yr heddlu wedi dechrau ymchwilio i negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar ôl iddyn nhw gael eu rhybuddio gan Buffy Williams, yr Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli'r Rhondda.
'Annog trais'
Dywedodd Nicholas Gedge, a oedd yn ymddangos ar ran yr amddiffyniad, fod gan Boyce “gywilydd o’r hyn a wnaeth” a’i fod “eisiau i bobl fyw’n heddychlon gyda’i gilydd”.
“Roedd ganddo farn ar y pryd o ganlyniad i’r hyn yr oedd wedi’i weld ar-lein, yn anffodus,” meddai.
“Roedd yn cydymdeimlo â safbwyntiau a oedd yn anghywir, ac mae’n cydnabod hynny erbyn hyn.”
Wrth ddedfrydu Boyce, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke: “Gwelodd heddwas eich cyfrif a gweld eich bod wedi postio deunydd bygythiol gyda’r nod o ysgogi casineb crefyddol.
“Gan gynnwys postio eich bod chi’n barod am ryfel ac ychwanegu’r sylw ‘llosgwch nhw i gyd gyda’r bastardiaid y tu mewn’ pan wnaethoch chi rannu delwedd mosg.”
Ychwanegodd fod y negeseuon yn dangos bwriad i “annog trais difrifol” mewn “hinsawdd gymdeithasol arbennig o sensitif”.