Caniatâd i ailadeiladu tafarn losgodd i lawr yn Sir Benfro
Mae cwmni wedi cael caniatâd i ailadeiladu tafarn losgodd i lawr yn Sir Benfro ar ddechrau'r flwyddyn.
Cafodd Tafarn y Duke of Edinburgh sydd gyferbyn â'r traeth yn Niwgwl ei losgi i lawr yn ystod oriau mân y bore ar 16 Ionawr.
Roedd y cais gan Pleasure Inns Ltd yn cynnwys gosod ardal bar a bwyty newydd wedi ei gymeradwyo gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Dywedodd swyddog ar ran y cyngor na fydden nhw'n debygol o ganiatáu datblygiad newydd ond bod y tŷ tafarn wedi bodoli yno'n barod.
Mae’r cyngor cymuned leol, Nolton a’r Garn wedi cefnogi’r cynlluniau i'r dafarn, gan ddweud: “Rydym yn teimlo bod y cynlluniau’n cael eu hystyried yn dda, yn ddeniadol ac yn sicr o wella Niwgwl, yn weledol ac fel gwasanaeth rhagorol i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd.
“Mae Tafarn Duke of Edniburch yn gyfystyr â'r Niwgwl ac mae twristiaid a phobl leol wedi’i fwynhau ers sawl cenhedlaeth.
"Mae’r gymuned leol yn edrych ymlaen at y gwaith adnewyddu arfaethedig a’r busnes arferol yn ailddechrau yn y dafarn yn y dyfodol agos.”
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin (MAWWFRS) nad oedden nhw yn gwybod beth achosodd y tân.
“Doedd dim canlyniad pendant oherwydd maint y difrod yn yr ardal lle dechreuodd y tân,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth.
“Doedd dim amgylchiadau amheus felly bydd yn cael ei gofnodi fel un damweiniol heb esboniad.”