Llandysul: Cwrso pensiynwr i dalu biliau tŷ sydd ddim yn bodoli

ITV Cymru 11/10/2024
Keith Davies

Mae cwmni British Gas wedi ymddiheuro ar ôl cwrso pensiynwr yn Llandysul i dalu biliau tŷ sydd ddim yn bodoli.

Roedd y cwmni wedi gyrru biliau at Keith Davies am dŷ a gafodd ei chwalu er mwyn adeiladu ffordd osgoi y dref yng Ngheredigion 15 mlynedd yn ôl.

Ymunodd Mr Davies â British Gas ym mis Ionawr a sylweddol yn fuan bod rywbeth o’i le gyda’i filiau.

“Roedd British Gas yn defnyddio rhif adeilad oedd wedi mynd a’i ben iddo, oedd draw pen arall yr hewl,” meddai.

“Fe gafodd ei ddymchwel pan gafodd y by-pass ei hadeiladu.

“Pam eu bod nhw’n defnyddio rhif eiddo sydd ddim yn bodoli rhagor?

“Maen nhw wedi mynd â fi at y casglwyr dyledion – mae’n gwasgu arna i. 

“Wy’n talu pob bil dim problem o gwbl, ond maen nhw’n cadw ymlaen gofyn am arian sa’i mewn dyled amdano.”

Mewn datganiad dywedodd British Gas eu bod nhw’n gwerthfawrogi bod hyn wedi bod yn anodd i Mr. Davies.

“Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad i ddweud mae'n ddrwg gennym a fod hyn bellach wedi'i ddatrys,” medden nhw.

“Caewyd y cyfrif a chliriwyd y balans. Rydym wedi cadarnhau na fydd yn derbyn unrhyw nodiadau atgoffa pellach, a byddwn yn anfon arwydd ewyllys da ato am beidio â rhoi hyn yn iawn yn gynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.