Newyddion S4C

Rhan o'r A470 ar gau tan mis Rhagfyr

11/10/2024
A470 Talerddig (Traffic Wales)

Bydd rhan o'r A470 yn cau yn llwyr o ddiwedd Hydref tan fis Rhagfyr. 

Fe fydd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach ar gau o 31 Hydref tan 20 Rhagfyr. 

Fe fydd y gwaith trwsio yn ymwneud â'r wal sy'n cynnal y ffordd, wedi iddi ddisgyn ym mis Hydref y llynedd gan orfodi cau'r ffordd mewn argyfwng. 

Ers hynny, mae goleuadau traffig wedi bod yn rheoli'r traffig. 

Bydd y goleuadau traffig dwy ffordd yn cael eu hailosod ar y safle yn dilyn y cyfnod cau er mwyn gallu gorffen y gwaith adeiladu. 

Fe fydd yr holl fesurau rheoli traffig wedi gorffen erbyn 14 Chwefror y flwyddyn nesaf. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y gwaith yn "hanfodol" i gadw'r ffordd ar agor dros y blynyddoedd i ddod.

Llun: Rhan o ffordd yr A470 ger Talerddig (X/Traffic Wales North & Mid)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.