'Mae llawer o pressure ar fyfyrwyr i yfed ac yfed ac yfed'

'Mae llawer o pressure ar fyfyrwyr i yfed ac yfed ac yfed'
"Mae llawer o pressure mewn capital fel Caerdydd especially bod yn fyfyrwyr i yfed ac yfed ac yfed."
Dyna farn y myfyriwr Chris Evans, sy’n wreiddiol o Geredigion, sy'n dweud ei fod yn "sobor" ac yn rhan o ddigwyddiad newydd a fydd yn rhoi cyfle iddo ef gwrdd yn gymdeithasol gyda myfyrwyr eraill o'r un anian.
Mae Alcohol Cymunedol Caerdydd, mewn partneriaeth â FOR Cardiff, wbellach yn ceisio newid hynny wrth iddyn nhw lansio digwyddiadau ‘di-alcohol’ yn y brifddinas yr wythnos hon.
Daw wedi cynnydd wedi bod yn y nifer o bobl ifanc sy’n penderfynu yfed llai o alcohol.
Yn ôl arolwg diweddar, mae 39% o bobl 18 i 24 oed yn dewis peidio yfed o gwbl.
Gobaith ymgyrch Alcohol Cymunedol Caerdydd, 'Fy Niod, Fy Newis', yw helpu pobl ifanc i deimlo'n fwy cyfforddus ynghylch penderfynu peidio ag yfed.
Mae’r digwyddiadau yn rhoi cyfle i bobl ifanc a myfyrwyr fel Chris i gael noson allan gyda ffrindiau a mwynhau diodydd di-alcohol heb bwysau allanol.
"Mae rhywle fel hyn, rhywle mae pawb yn gallu dod i yfed neu ddim yfed alcohol yn jyst peaceful a'n calm i bawb i ddim allu cael y pressure yna," meddai Chris Evans.
"Ni'n gweithio gyda [bar] Scaredy Cats a For Cardiff a'r Welsh Government i greu event i fyfyrwyr sydd ddim yn yfed alcohol.
"Mae'n rhywle i deimlo fel maen nhw gyda chymuned gyda'i gilydd a nhw gyda rhywbeth i'w wneud mewn city fel Caerdydd yn y noswaith i nhw ddod gyda'i gilydd.
"A bod yn hyderus i fod eu hunain a ddim gyda'r pressures i yfed alcohol gyda'i gilydd."