
Sue Gray yn methu cyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau
Bydd Sue Gray yn methu cyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Cafodd cyn bennaeth staff y Prif Weiniodg Keir Starmer ei phenodi i swydd cennad i'r gwledydd a'r rhanbarthau ddydd Sul ar ol misoedd o ffraeo o fewn y llywodraeth.
Ond mae Sue Gray bellach wedi dweud y bydd hi’n cymryd hoe cyn newid swyddi.
Mae cwestiynau am fanylion ei rôl fel cennad wedi cynyddu yr wythnos hon, gyda disgwyl gwybodaeth bellach i gael ei chyhoeddi gan Swyddfa'r Cabinet yn fuan.
Dyma fydd y tro cyntaf i gorff newydd Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau a gafodd ei sefydlu gan Llywodraeth y DU gwrdd.
Bydd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan yn ymuno â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a meiri rhanbarthol Lloegr yn y digwyddiad.
Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Yr Alban.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Eluned Morgan: "Mae’r Cyngor newydd hwn – Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau – yn enghraifft o ailosod y berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
"Dim ond drwy gydweithio, a hynny yng ngwir ystyr y gair, y gallwn gyflawni dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfle gwirioneddol i weithio fel partneriaid ar y brif genhadaeth sef twf economaidd."
Bydd Eluned Morgan yn teithio i Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol gyntaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain ddydd Llun.
Ychwanegodd y prif weinidog: "Mae yna lawer o flaenoriaethau ry’n ni’n eu rhannu y gallwn ni gydweithio arnyn nhw, gan gynnwys helpu pobl i gael gwaith, annog arloesi a buddsoddi, a gwella seilwaith economaidd a sgiliau."