‘Digwyddiad critigol’: Symud cleifion oherwydd difrod i do ysbyty
Mae ysbyty wedi datgan “digwyddiad critigol” gan ddweud bod difrod i do’r adeilad yn fwy difrifol na’r disgwyl.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eisoes wedi dweud y byddai rhai symud cleifion ar ôl i ddŵr glaw ollwng i mewn i Ysbyty Tywysoges Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd ddydd Iau bod adeiladwyr bellach wedi darganfod “difrod hirdymor mewnol mwy difrifol i do'r ysbyty” ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
“Rydym yn delio â hyn fel digwyddiad critigol, ac rydym bellach yn archwilio pob opsiwn i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal mewn amgylchedd diogel i'r cleifion,” medden nhw.
“Bydd angen i'r opsiynau gynnwys defnyddio cyfleusterau'r bwrdd iechyd cyfan i sicrhau bod gennym y gallu i ddiwallu anghenion ein holl gleifion.”
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eu bod nhw’n gwerthfawrogi bod y problemau “yn peri pryder”.
"Bydd hyn yn golygu bod rhai o wasanaethau'r bwrdd iechyd a gofal yn cael eu darparu mewn man gwahanol,” meddai.
“Ar hyn o bryd rydym yn gweithio trwy'r opsiynau hyn i sicrhau bod hyn yn achosi cyn lleied o darfu â phosibl ar gleifion.”
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynghori pobl y dylent barhau i fynd i apwyntiadau wedi'u trefnu yn yr ysbyty oni bai bod y bwrdd iechyd yn cysylltu â nhw i ddweud fel arall.
Maent hefyd yn atgoffa pobl y gallant eu helpu yn ystod y cyfnod prysur hwn trwy fynychu'r adran frys dim ond os yw eu cyflwr yn hanfodol neu'n peryglu bywyd.