Cynllun i adeiladu degau o orsafoedd newydd fel 'Mynydd Gwefru' Dinorwig
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu degau yn rhagor o orsafoedd tebyg i 'Fynydd Gwefru' Gorsaf Bŵer Dinorwig ledled y DU.
Mae'r orsaf bŵer ger Llanberis yng Ngwynedd yn gallu creu a storio hyd at 1,728-megawatt o egni o ddŵr ar fyr rybudd.
Mae gweinidogion yn San Steffan bellach wedi rhoi sêl bendith i adeiladu dros ddeg o orsafoedd tebyg.
Y nod fyddai prynu trydan pan mae'n rhad er mwyn pwmpio dŵr i dop mynyddoedd ac yna ei ollwng yn hwyrach er mwyn cynhyrchu trydan pan mae ei angen, fel sy'n digwydd yn Dinorwig.
Mae pedwar safle o'r fath gan gynnwys yr un dan lethrau Elidir Fawr eisoes yn bodoli yn y DU ond does yr un wedi ei adeiladu ers dros 40 mlynedd.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod angen pum gwaith gymaint o safleoedd o'r fath erbyn 2050 er mwyn cwrdd â thargedau sero net.
'Glân'
Dywedodd y gweinidog ynni Michael Shanks y byddai'r cynllun yn "cynyddu ein gallu i storio'r ynni pan nad yw'r haul yn tywynnu, neu pan nad yw'r gwynt yn chwythu".
Ychwanegodd: "Bydd y prosiectau hyn yn storio'r ynni glân a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy.
"Y nod yw dibynnu llai ar danwydd ffosil, stopio biliau rhag mynd i fyny, a chyflawni'r nod allweddol o wneud Prydain yn bŵer ynni glân."
Dywedodd Beatrice Filkin, cyfarwyddwr prosiectau mawr yn Ofgem: "Mae datgloi buddsoddiad yn y dechnoleg bwysig hon yn gam arwyddocaol arall tuag at ddatgarboneiddio'r system bŵer."
Mae disgwyl i'r llywodraeth wahodd cwmnioedd i wneud cais am yr hawl i adeiladu gorsafoedd ynni o'r fath yn 2025.