Newyddion S4C

Cau safleoedd ambiwlans awyr: Ymgyrchwyr yn ennill yr hawl i Adolygiad Barnwrol

10/10/2024

Cau safleoedd ambiwlans awyr: Ymgyrchwyr yn ennill yr hawl i Adolygiad Barnwrol

Mae ymgyrchwyr yn erbyn cynlluniau i ail-drefnu gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru wedi ennill yr hawl i adolygiad barnwrol.

Fe ddaw wedi i fwyafrif aelodau Cydbwyllgor Comisiynu'r GIG (CBC) bleidleisio ym mis Mai o blaid argymhelliad i gau safleoedd Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng.

Mae cynlluniau ar y gweill i uno’r ddau safle, o bosib yn ardal Y Rhuddlan yn Sir Ddinbych.

Ond mae ymgyrchwyr yn pryderu y bydd yn gadael rhai trigolion mewn ardaloedd anghysbell o’r wlad heb gymorth meddygol.

Dywedodd Lucy O’Brien, Cyfarwyddwr a Chyfreithiwr yn Watkins & Gunn a wnaeth ddadlau achos yr ymgyrchwyr eu bod yn “falch” o gael y cyfle i ddadlau eu hachos yn yr Uchel Lys.

“Mae llawer o’r rhai sy’n byw yn ardaloedd gwledig ac arfordirol canolbarth a gogledd Cymru yn teimlo eu bod nhw’n colli’r hawl i wasanaeth Ambiwlans Awyr o ganlyniad i benderfyniad y CBC,” meddai.

“Bydd ein cleientiaid yn parhau i frwydro dros ganolfan ambiwlans awyr yn y canolbarth ac i sicrhau bod y prosesau o wneud penderfyniadau yn gywir ac yn deg.”

Maen nhw’n rhagweld y gallai gwrandawiad llawn gael ei gynnal fewn deufis.

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, Russell George, ei fod yn croesawu’r penderfyniad.

“Fel ymgyrchwyr, roeddem yn credu bod penderfyniad y CBC ym mis Ebrill i gau a chanoli canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon yn sylfaenol anghywir, ac fel grwpiau ymgyrchu yn y ddwy ardal wedi bod yn cydweithio i herio'r penderfyniad,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.