Llywodraeth y DU yn cyhoeddi hawliau newydd i weithwyr
Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi pecyn o hawliau newydd i weithwyr ddydd Iau, gan gynnwys newidiadau i gytundebau "zero hours" a mwy o ddiogelwch rhag colli swydd.
Mae undebau wedi croesawu'r newidiadau gan ddweud ei fod yn "newid enfawr" o'r drefn dan y Ceidwadwyr.
Ond fydd y rhan fwyaf o'r 28 o newidiadau yn y Mesur Hawliau Cyflogaeth ddim yn dod i rym am ddwy flynedd arall.
O dan y drefn newydd, byddai gweithwyr yn cael eu gwarchod rhag cael eu diswyddo'n annheg o'r diwrnod cyntaf mewn swydd, yn hytrach na gorfod aros am ddwy flynedd.
Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd hyn yn cynnig sicrwydd i hyd at 9 miliwn o bobl yn y DU sydd wedi bod mewn swydd am lai na dwy flynedd.
Bydd gweithwyr ar gytundebau "zero hours" yn cael cynnig sicrwydd o waith am nifer penodol o oriau. Yn ogystal bydd ganddyn nhw hawl i iawndal os bydd shifft yn cael ei chanslo neu ei byrhau.
'Rhuthro'
Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys newidiadau i daliadau salwch statudol, gyda gweithwyr yn cael hawl i dâl o'r diwrnod cyntaf o salwch yn hytrach na'r pedwerydd diwrnod.
Bydd hawliau ychwanegol hefyd yn ymwneud â gweithio'n hyblyg, a dyddiau ffwrdd o'r gwaith oherwydd galwadau teuluol eu brofedigaeth.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner:"Bydd partneriaeth newydd rhwng undebau, cyflogwyr a llywodraeth yn rhoi ni ochr yn ochr ag economiau eraill sy'n tyfu'n gyflym a sy'n elwa o mwy o gydweithrediad a llai o darfu."
Ond cyhuddodd y Ceidwadwyr y Llywodraeth o "ruthro'r ddeddfwriaeth drwy'r Senedd" er mwyn plesio'r undebau. Dywedodd llefarydd y byddai'r cynlluniau yn cael "effaith negyddol" ar swyddi a chyflogau.