Newyddion S4C

Brwydr rhwng Badenoch a Jenrick i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr

09/10/2024
Badenoch Jenrick

Robert Jenrick  neu Kemi Badenoch fydd arweinydd newydd y Blaid Geidwadol, wedi i James Cleverly golli yn y bleidlais ddiweddaraf.

Roedd y bleidlais ymhlith Aelodau Seneddol Ceidwadol yn agos, gyda Ms. Badenoch yn cael 42 pleidlais, Mr. Jenrick 41, a Mr. Cleverly 37. O ganlyniad mae Mr. Cleverly allan o'r ras.

Aelodau'r blaid ledled y DU fydd yn penderfynu pwy fydd yr enillydd yn y bleidlais derfynol, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 2.

Mae Ms. Badenoch a Mr Jenrick yn cael eu gweld fel bod yn ymgeiswyr o asgell dde y blaid. Roedd Mr Cleverly, oedd yn cael ei weld yn ffefryn i ennill gan rai, yn cael ei ystyried fel bod yn fwy canolig.

Wedi iddo golli, dywedodd;"Rydym i gyd yn Geidwadwyr, a'r peth pwysig ydy bod y blaid Geidwadol yn uno i herio'r Llywodraeth Llafur trychinebus yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.