Newyddion S4C

Awgrymu sacio aelodau o'r Senedd sy'n dweud celwydd

10/10/2024
Aelodau o'r Senedd

Mae adroddiad newydd wedi awgrymu sacio aelodau o'r Senedd sy'n dweud celwydd.

Yn ol yr arbenigwyr luniodd yr adroddiad, mae trefn bresennol y Senedd o ddelio â gwleidyddion sy'n camarwain yn fwriadol "yn annigonol".

Mae'r Sefydliad Ymchwil Cyfansoddiadol a Democrataidd (ICDR) yn awgrymu y dylai aelodau neu ymgeiswyr sy'n eu cael yn euog o dwyll bwriadol gael eu diarddel.

Dywedodd un o awduron y papur, Sam Fowles: "Mae rheolau'r Senedd eisoes yn dweud dylai gwleidyddion ddweud y gwir, fel y mae rheolau mewnol Senedd yr Alban a San Steffan, yn ogystal â chynulliad gogledd Iwerddon.

"Y broblem yw nad oes modd gweithredu'r rheolau yna mewn modd cywir."

Cywiro

Mae'r Sefydliad yn dweud fod y drefn bresennol, gyda phenderfyniad gan y comisiynydd safonau'n gorfod cael ei gadarnhau gan y Senedd, yn golygu bod gwleidyddion i bob pwrpas "yn marcio'u gwaith cartref eu hunain."

Mae nhw'n awgrymu system  newydd lle byddai llys yn rhoi saith diwrnod o rybudd i unrhyw aelod o'r Senedd neu ymgeisydd oedd wedi gwneud datganiad ffeithiol ffug neu gamarweiniol.

Os byddai'r gwleidydd yn gwrthod cywiro ei sylwadau o fewn saith diwrnod, byddai'n cael ei atal o unrhyw swydd wleidyddol hyd nes yr etholiad nesaf o leiaf.

Yn gynharach eleni, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i gyflwyno deddf yn ymwneud â gwleidyddion sy'n dweud celwydd rhywbryd cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.