Ymosodiad Dyffryn Aman: Gorchymyn achos llys newydd
Mae'r rheithgor wedi eu rhyddhau yn achos trywanu dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill eleni.
Mae'r barnwr wedi gorchymyn achos llys newydd ar ddechrau 2025, yn dilyn "rheswm hynod o afreolaidd" gyda'r rheithgor.
Roedd y rheithgor wedi bod yn ystyried eu dyfarniad ers dydd Mawrth, ar ôl gwrando ar y dystiolaeth yn erbyn merch 14 oed nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol.
Roedd hi wedi cyfaddef i honiad o drywanu ond wedi gwadu ceisio llofruddio.
Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl nad oes modd ei henwi, eu hanafu yn yr ymosodiad ar iard Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin.
Goroesodd pob un o'r tri dioddefwr yr ymosodiad ond bu'n rhaid i Ms Hopkin gael ei hedfan i Gaerdydd mewn ambiwlans awyr ar ôl cael ei thrywanu yn ei gwddf.
Yn Llys y Goron Abertawe fore dydd Mercher, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y bydd achos cyfreithiol newydd yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr yn y flwyddyn newydd.
Esboniodd bod hyn o achos rheswm hynod o afreolaidd yn y rheithgor "sydd wedi peryglu ein gallu i ystyried y mater hwn".
Ychwanegodd y barnwr: “Gyda’r amharodrwydd mwyaf posib, bydd yn rhaid i mi ryddhau’r rheithgor hwn."
Dywedodd ei fod yn sefyllfa "anfoddhaol iawn" i ryddhau’r rheithgor, yn enwedig o gofio y bydd yn rhaid i blentyn 14 oed sefyll ei brawf eto yn y dyfodol.
Gofynnwyd i un aelod o'r rheithgor aros ar ôl gan y barnwr, a'r cyhoedd i adael y llys.