Neil Foden: Cyngor Gwynedd yn addo gweithredu argymhellion 'ar unwaith'
Neil Foden: Cyngor Gwynedd yn addo gweithredu argymhellion 'ar unwaith'
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y byddan nhw'n gweithredu pob argymhelliad ddaw o'r adolygiad annibynnol i achos Neil Foden, y pennaeth gafodd ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar bedair merch ysgol.
Wedi i rhaglen ddogfen awgrymu fod Foden wedi bod yn cam-drin disgyblion am gyfnod o dros 40 mlynedd, dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd y byddan nhw'n cefnogi unrhyw ymchwiliad i sut y llwyddodd Foden i barhau i droseddu.
Dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ddydd Mercher: " Byddwn yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i gynorthwyo arbenigwyr annibynnol yr Adolygiad i gwblhau eu gwaith. Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu pob argymhelliad ddaw o’r broses ar unwaith."
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
Ond mae rhaglen BBC Wales Investigates, 'My Headteacher the Paedophile' wedi datgelu honiadau o gam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr.
Mae’r honiadau yn dyddio yn ôl i 1979, ac mae posibilrwydd fod dros bedair gwaith yn fwy o ferched wedi eu cam-drin ganddo ef, yn ôl rhaglen.
Wrth ymateb i'r rhaglen, dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ei fod "wedi fy ysgwyd a fy mrawychu" gan droseddau Foden.
“Mae diogelwch a llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Ngwynedd wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud," meddai.
"Gwn fod fy nghyd-aelodau ar Gyngor Gwynedd yn rhannu fy ffieidd-dra ynghylch yr hyn y mae Neil Foden wedi'i wneud a'n bod yn unfryd o’r farn fod yr hyn a ddigwyddodd i'w ddioddefwyr yn drasiedi na ddylai fyth ddigwydd eto."
Mae nifer o ddioddefwyr a'u teuluoedd wedi cwestiynu pam na wnaeth Cyngor Gwynedd mwy i atal Neil Foden yn gynharach.
Bellach mae Panel Adolygu Ymarfer Plant annibynnol wedi ei sefydlu i ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.
“Bydd yr holl wybodaeth berthnasol sydd yn ein meddiant, neu unrhyw wybodaeth newydd ddaw i'n sylw, yn cael ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd i arbenigwyr yr Adolygiad Ymarfer Plant erbyn y dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer yr holl asiantaethau, sef dydd Gwener, 11 Hydref," meddai Dyfrig ap Siencyn.
“Cam cyntaf o gael cyfiawnder i ddioddefwyr Neil Foden oedd ei euogfarn a'i ddedfrydu. Y cam nesaf yw sicrhau fod gwersi'n cael eu dysgu fel nad oes unrhyw blentyn arall yn dioddef camdriniaeth gan droseddwyr fel Neil Foden. Rwy'n gobeithio y bydd y gweithredoedd hyn yn helpu i ddod â rhywfaint o dawelwch meddwl i'r dioddefwyr a'u teuluoedd."
Mae gwleidyddion a chynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad annibynnol o brosesau'r Cyngor, sydd dan arweiniad Plaid Cymru, a hynny er mwyn "deall yn union beth aeth o’i le er mwyn dysgu gwersi, ac mae’n rhaid gwneud hynny ar fyrder".
Ychwanegodd y grŵp, sydd yn cynnwys yr arweinydd Rhun ap Iorwerth, yr Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts, yr Aelodau Senedd Sian Gwenllian a Mabon ap Gwynfor, a Chynghorwyr y Blaid yn y sir, eu bod yn 'ail-adrodd eu galwad' a gafodd ei wneud yn wreiddiol ar 1 Gorffennaf eleni i gynnal ymchwiliad cyhoeddus.
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Lywodraeth Cymru.