Newyddion S4C

Netanyahu yn rhybuddio Libanus o 'ddinistr fel Gaza'

09/10/2024
Benjamin Netanyahu

Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi rhybuddio Libanus i ddod yn rhydd o Hezbollah ac i osgoi "dinistr a dioddefaint fel yr hyn sydd yn Gaza'.

Daeth apêl Mr Netanyahu wrth i Israel ehangu eu hymosodiad yn erbyn Hezbollah drwy anfon miloedd yn rhagor o filwyr i ardal newydd yn ne-orllewin Lebanon. 

Dywedodd Israel fod 50 o aelodau Hezbollah wedi cael eu lladd mewn ymosodiad awyr ddydd Llun. 

Dywedodd gweinyddiaeth iechyd Libanus fod 36 o bobl wedi eu lladd a 150 wedi eu hanafu mewn ymosodiadau gan Israel dros y 24 awr ddiwethaf. 

Yn y cyfamser, fe lansiodd Hezbollah sawl roced tuag at borthladd Haifa yn Israel am y trydydd diwrnod yn olynol, gan anafu 12 o bobl.

Mewn neges i bobl Libanus, dywedodd Mr Netanyahu: "Mae gennych chi gyfle i arbed Libanus cyn i'r wlad ddisgyn i ryfel hir a fydd yn arwain at ddinistr a dioddefaint fel yr hyn sydd yn Gaza.

"Dwi'n dweud wrthoch chi, bobl Libanus: Rhyddhewch eich gwlad rhag Hezbollah fel bod modd i'r rhyfel yma ddod i ben."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.