'Y gwaethaf mewn canrif': Miloedd yn ffoi o Florida wrth i Gorwynt Milton agosáu
Mae cannoedd o filoedd o bobl yn nhalaith Florida yn yr UDA wedi ffoi o'u cartrefi wrth i gorwynt nerthol Milton agosáu.
Mae'r awdurdodau yn y wlad wedi amcangyfrif y gallai'r corwynt Graddfa 4 achosi gwerth $1 biliwn o ddoleri o ddifrod.
Dywedodd yr Arlywydd Joe Biden y gallai'r corwynt fod y gwaethaf i daro Florida mewn canrif:
“Rydw i wedi cael fy mriffio gan uwch arweinwyr y weinyddiaeth hon, ac rydyn ni’n cynyddu parodrwydd ar gyfer Corwynt Milton, a allai fod yn un o’r stormydd gwaethaf mewn 100 mlynedd yn Florida,” meddai Biden o’r Tŷ Gwyn.
“Os ydych chi o dan orchmynion i symud, dylech symud nawr, nawr, nawr. Dylech fod wedi symud eisoes. Mae’n fater o fywyd a marwolaeth ac nid yw hynny’n ormodiaith, ”meddai yn ystod diweddariad ar Gorwynt Milton ddydd Mawrth.
Mae'r Arlywydd Biden wedi gohirio taith i'r Almaen ac Angola er mwyn goruchwylio paratoadau ar gyfer y storm yn ogystal â'r ymateb presennol i Gorwynt Helene.
Cafodd bron i 700 o hediadau eu canslo erbyn brynhawn Mawrth, gyda 1,500 o'r hediadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer ddydd Mercher hefyd yn cael eu canslo.
Mae disgwyl i'r corwynt daro'r tir mawr nos Fercher (amser lleol), gyda rhagolygon yn darogan y gallai greu gwyntoedd o 150 milltir yr awr.
Mae maer Clearwater yn y dalaith wedi rhybuddio pobl yno i adael ar frys cyn i'r corwynt gyrraedd.
Dywedodd Bruce Rector y gallai pobl sydd yn dewis aros yn yr ardal farw o ganlyniad i'r storm.
“Wel, mae'r ymdrech yn un fawr, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Bywyd dynol yw ein blaenoriaeth ar hyn o bryd felly, fel y dywedodd fy ffrind Maer Castor ddoe, os dewiswch aros mewn man gwacáu, fe allech chi farw.
"Mae'n ddifrifol iawn. Dyma… y storm fwyaf arwyddocaol rydyn ni wedi’i chael yma mae’n debyg ers canrif.”
Mae pobl yng Ngogledd Carolina yn cyfrif y gost a chlirio'r difrod wedi i Gorwynt Helene daro yn y dyddiau diwethaf, ac mae ymgyrch ar droed i geisio atgyweirio'r cyflenwad dŵr mewn nifer o drefi yn yr ardal.
Cafodd maint a grym Corwynt Milton ei weld o'r gofod gan ofodwyr brynhawn dydd Llun wrth iddo agosáu at y tir.
Inline Tweet: https://twitter.com/dominickmatthew/status/1843679036792549688