Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Disgybl 'ddim wedi bwriadu' trywanu athrawes

08/10/2024

Ysgol Dyffryn Aman: Disgybl 'ddim wedi bwriadu' trywanu athrawes

Y munudau cyn i ferch 14 oed drywanu dwy athrawes a disgybl.

Fe gafodd y rheithgor weld y deunydd CCTV yma unwaith eto heddiw. Wrth roi ei thystiolaeth dywedodd y ferch 14 oed nad oedd ganddi lawer o ffrindiau a'i bod yn ofni plant eraill.

Clywodd y rheithgor iddi ddefnyddio cyllyll i hunan-niweidio a hynny ers oedd hi ym mlwyddyn 3 o'r ysgol gynradd.

Fe sgwrsiodd y diffynnydd â Fiona Elias ger neuadd yr ysgol cyn yr ymosodiad. Roedd Miss Elias yn dweud wrthi nad oedd hawl ganddi fod yno.

Dywedodd y ferch heddiw wrth y llys nad oedd hi'n hoffi hynny. Gyda'r gyllell yma yn ei phoced, aeth allan at Fiona Elias oedd yn sefyll gyda Liz Hopkin ar iard yr ysgol.

Yn ôl y ferch, bwrw Miss Elias oedd ei bwriad, nid ei thrywanu. Dywedodd nad ydy hi'n cofio trywanu'r ddwy athrawes a disgybl.

Cafodd deunydd camera corff yr heddlu ei ddangos eto i'r rheithgor - dyna un ffordd i fod yn enwog, meddai'r diffynnydd ar ôl yr ymosodiadau.

Heddiw, dywedodd bod hynna'n rhyw fath o jôc a'n ymgais i godi hwyliau. Ychwanegodd y ferch 14 oed ei bod yn teimlo'n ofnadwy a byddai'n gwneud unrhyw beth i fynd yn ôl.

Mae'n cyfaddef trywanu'r tri ond yn gwadu ceisio llofruddio.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.