'Sensitifrwydd masnachol' yn gyfrifol am oedi cyn cyhoeddi lleoliad Prifwyl Wrecsam
Mae rhwystredigaeth wedi’i leisio ynghylch ansicrwydd am leoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.
Mae awgrym yn lleol bod y cyhoeddiad am y safle wedi ei ohirio, wrth i drafodaethau barhau am y tir.
Roedd sawl un yn credu bod disgwyl i gyhoeddiad gael ei wneud mewn digwyddiad yn Nhŷ Pawb yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn diwethaf.
Tir ger Erddig sydd wedi’i ddewis fel y lleoliad ar frig y rhestr ar gyfer y Brifwyl, ond mae trafodaethau cytundebol wedi llusgo ymlaen yn hirach na’r disgwyl.
Codwyd y mater gan Marc Jones, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam, mewn cyfarfod o fwrdd gweithredol yr awdurdod lleol a gynhaliwyd fore dydd Mawrth.
Dywedodd fod pobl wedi cael eu siomi gan ddiffyg gwybodaeth gan drefnwyr y digwyddiad:
“Roedd digwyddiad arbennig o dda yn Nhŷ Pawb y penwythnos diwethaf a roddodd flas ar ddiwylliant Cymru cyn yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Fel rhan o hynny, roedd cyhoeddiad yn mynd i fod ar leoliad yr Eisteddfod.
“Mae pobl yn edrych ymlaen yn fawr at ddarganfod ble mae’n mynd i fod, ac felly roedd yn dipyn o siom.
“Roedd rhywfaint o rwystredigaeth wedi’i fynegi i mi ar y diwrnod nad oedd cyhoeddiad.”
Ychwanegodd: “Rwy’n gwybod bod hwn yn fater i bwyllgor yr Eisteddfod ei hun, ond mae gan y cyngor fewnbwn ar hyn, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig bod gennym eglurder yn ei gylch.
“Rwy’n cael fy holi’n rheolaidd beth sy’n digwydd. Mae’n hwyr iawn yn y dydd, felly hoffwn gael diweddariad ar ble’r ydym ni o ran sicrhau bod gennym ni’r lleoliad gorau posib.”
Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol Hugh Jones, hyrwyddwr y Gymraeg y cyngor, fod trafodaethau ynglŷn â’r safle yn parhau, ond ni allai ddatgelu rhagor o wybodaeth am resymau masnachol:
“Trwy gydol y broses, mae ein swyddogion wedi gweithio’n agos iawn ac wedi cefnogi pwyllgor yr Eisteddfod, oherwydd mae er ein budd ni gymaint â’u rhai nhw.
“Mae’r penderfyniad masnachol yn un i bwyllgor yr Eisteddfod ei wneud, ac mae angen iddyn nhw fod yn fodlon â’r trefniadau masnachol.
“Rwy’n ymwybodol o gyflwr presennol y trafodaethau, ond oherwydd y sensitifrwydd masnachol, byddai’n amhriodol i mi wneud unrhyw sylwadau heblaw am y ffaith ein bod yn parhau i weithio’n agos iawn gyda’r pwyllgor.”
Mewn ymateb i Newyddion S4C am gyhoeddiad am safle'r Brifwyl yn Wrecsam, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod:
“Fe fyddwn ni’n cyhoeddi lleoliad y Maes yn ystod mis Hydref. Dyna oedd y bwriad ar hyd y daith, ac fe fydd hyn yn digwydd. Roedd Gwyl yr Hydref yn ddathliad i nodi dechrau ‘blwyddyn yr Eisteddfod’ ac roedd y trefniadau wedi bod ar waith ers misoedd lawer.
"Rhoi rhagflas o’r hyn sydd i ddod yn yr Eisteddfod y flwyddyn oedd y bwriad, nid creu digwyddiad i gyhoeddi lleoliad y Maes."