Rhannu profiad o fyw gyda chyflwr prin 'i bobl ddeall a dysgu'
Rhannu profiad o fyw gyda chyflwr prin 'i bobl ddeall a dysgu'
Mae rhieni merch ifanc o Gaerdydd sy'n byw gyda chyflwr prin yn awyddus i rannu eu profiad er mwyn i eraill "ddeall a dysgu mwy am y cyflwr".
Mae Nansi yn saith oed ac yn byw gyda chyflwr prin o'r enw Oesophageal Atresia a Tracheo-Oesophageal Fistula, sef OA/TOF.
Mae'r cyflwr prin yn ymwneud â'r bibell fwyd sef y bibell sy'n cludo bwyd o'r geg i'r stumog, a'r bibell wynt.
Nid yw rhan isaf y bibell fwyd wedi ei chysylltu gyda'r stumog ac mae pibell o'r enw fistula yn cysylltu’r bibell fwyd â'r bibell wynt, gan olygu nad oes modd i fwyd gyrraedd y stumog a pheryg i fwyd a diod basio i’r ysgyfaint.
Mae'r diffygion yma yn golygu na fydd plentyn yn gallu llyncu'n ddiogel.
Mae'r cyflwr yn effeithio ar un ymhob 3,500 o fabanod yn ôl yr elusen TOFS.
Yn y mwyafrif o achosion, nid yw'r rheswm am y cyflwr yn hysbys, a dim ond y lleiafrif o achosion sy'n gysylltiedig â diffygion genetig.
Dywedodd mam Nansi, Llinos Evans, wrth Newyddion S4C: "Ma’ Nansi yn blentyn TOF sy’n golygu pan gafodd hi ei geni, oedd yr oesoffagws (pibell fwyd) ddim yn cysylltu efo’r stumog ag oedd ‘na fistula yn mynd i fewn i’r ysgyfaint.
"Gafodd hi lawdriniaeth pan gafodd hi ei geni i gywiro hynna ag oedd genna hi hefyd lot o broblemau hefo’i bladder a’i arennau."
Yn ôl elusen TOFS sydd yn cynnig cefnogaeth gydol oes i'r rhai sy'n cael eu geni yn methu â llyncu, mae gan tua hanner y babanod sy'n cael eu geni gyda TOF broblemau eraill.
Os ydy datblygiad y bibell fwyd yn cael ei effeithio, mae posibilrwydd y gall systemau organau eraill gael eu heffeithio hefyd.
Y prif organau sy'n cael eu harchwilio ar unwaith ar ôl genedigaeth ydy'r galon a'r llwybr treulio.
Ychwanegodd Llinos: "Gafodd hi lawdriniaeth yn Great Ormond Street ddwy flynedd yn ôl i gael peth o’r enw mitrofanoff sy’n golygu bod hi’n gallu gwagio ei bladder rwan trwy ddefnyddio catheter drwy twll bach yn ei bol hi."
Wedi dwy lawdriniaeth fawr yn y blynyddoedd diwethaf, mae Nansi yn mynd o nerth i nerth.
"Mi oedd hi’n mynd i fewn i ysbyty bob chwech wythnos o leiaf yn enwedig rhwng yr oedran o bedair i chwech, colli ysgol, o’n i yn yr ysbyty diwrnod dolig cyn dwytha so ma’ ‘di bod yn amser anodd i ni fel teulu," meddai ei thad, Arwel Evans.
"Ond rwan mai’n tyfu a cryfhau a dan ni jyst mor prowd. Ma hi’n neud gyd o’r gwaith ei hun, neud physio ei hun, dechra neud gymnasteg, chwara pêl-droed i Crocs Caerdydd so ma’ bob dim yn helpu hi ddatblygu."
Mae diffyg dealltwriaeth gan eraill yn golygu fod delio â'r cyflwr yn gallu bod yn 'unig' ar adegau.
Dywedodd Arwel: "Pan oedd hi’n toddler bach, oedd na rwbeth o’r enw TOF cough a mae o’n swnio’n uffernol, mae o’n swnio fatha cyfarth ci a weithia ‘se ti’n cal rywun yn deud ‘Oo, she’s got a very bad cough’ ond dim yn sal oedd hi, oedd hi jyst efo’r cyflwr TOF, so ti’n goro egluro bob tro."
Ychwanegodd Llinos: "Pan oedd hi’n iau, oedd hi’m yn gallu byta so os oeddan ni’n mynd i Ti a Fi a partis a 'ballu, a ‘sa na fwyd o gwmpas a rhywun yn mynd rownd efo bwyd, fysa raid fi ddeud ‘O na, fedrith Nansi ddim cael hynna.’
"O o ran hynna, oedd hynna yn eitha unig a wedyn ti’n teimlo ti’m isio esbonio dy hun bob tro, ond ma Nansi yn dangos y ffordd i ni gyd."
Mae’r teulu yn rhannu eu profiad er mwyn i bobl ddeall mwy am y cyflwr.
"Dwi’n meddwl bod o’n help mawr os ydi pobl yn dalld, a dwi’n rhannu ella gormod ar social media ond dwi’n teimlo bo’ fi’n rhannu er mwyn i bobl gael dalld be' ma' Nansi yn mynd drwydda fo a be ‘dan ni fel teulu yn mynd drwydda fo," meddai Llinos.
"Dwi’m isio pobl deimlo bo’ nhw methu siarad efo ni am y peth achos ‘dan ni’n eitha agored, wedi bod erioed am y peth."
Ychwanegodd: "Ond fel dwi 'di ddeud, ma Nansi, hi sy 'di dangos y ffordd i ni gyd achos bo' hi mor hapus, mor positif, hi sy' 'di helpu pawb drwydda fo i gyd ond dwi’n meddwl bod o’n bwysig codi ymwybyddiaeth achos y fwya o ymwybyddiaeth sgen ti, y fwya o help ma’r bobl sy’n diodda yn mynd i gael. "