Menter newydd i gefnogi gweithwyr Tata ym Mhort Talbot
Bydd menter newydd yn cael ei lansio i gefnogi gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio o ganlyniad i gau'r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot.
Mae disgwyl i dros 2,000 o swyddi gael eu colli yn yr ardal o ganlyniad i'r newid i ddefnyddio system gynhyrchu arc trydan.
Yn ei anterth yn ystod y 1960au, roedd mwy na 18,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno.
Ond mae'r safle wedi mynd trwy sawl cyfnod o newid, sydd wedi arwain at streiciau a chwtogi ar swyddi.
Prynodd y cwmni Indiaidd Tata y gwaith dur yn 2007.
'Partneriaeth uchelgeisiol'
Dywedodd undeb Community fod canolfan gymorth newydd yn y dref yn cynnwys “partneriaeth uchelgeisiol” gyda Llywodraethau Cymru a’r DU ac asiantaethau lleol.
Dywedodd yr undeb y bydd yn cau'r ffwrneisi chwyth yn Tata Steel, gan arwain at golli miloedd o swyddi yn cael sgil-effaith enfawr ar yr economi a'r gymuned leol.
Dywedodd Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb: “Roedd cau’r ffwrneisi chwyth yn ddiwrnod dinistriol i’n diwydiant, gweithwyr dur, a Phort Talbot i gyd.
"Nid dyma’r canlyniad yr oeddem am ei weld, a gwyddom fod dyfodol gwahanol yn bosibl.
“Ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio nawr ar y ffordd orau o gefnogi pawb sy'n cael eu heffeithio, ac ar sicrhau buddsoddiad gwirioneddol a swyddi o ansawdd uchel i dref gyfan Port Talbot.”
'Siop un stop'
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chadeirydd Bwrdd Pontio Tata Jo Stevens: “Bydd y canolbwynt arloesol hwn yn gweithredu fel siop un stop i helpu i ddarparu’r cymorth i weithwyr yr effeithir arnynt gan y newidiadau yn Tata Steel.
“Rwy’n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi gweithwyr a busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau yn Tata Steel. Dyna pam mae’r bartneriaeth newydd hon o lywodraethau, undebau a’r cyngor lleol yn cydweithio i wneud yn siŵr bod y dref yn cael yr hyn sydd ei angen arni.
“Mae’r cyllid gan Lywodraeth y DU, drwy’r Bwrdd Pontio, eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
"Gwyddom fod llawer iawn o waith i’w wneud o hyd, ond rydym eisoes yn gweld pobl yn cael eu lleoli'n llwyddiannus mewn swyddi newydd o ganlyniad uniongyrchol i’r £13.5 miliwn a ddarparwyd gennym.”