Newyddion S4C

Cyhoeddi enwau gŵr a gwraig fu farw yng Nghaerdydd

08/10/2024
Marwolaethau Trowbridge

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enwau'r ddau fu farw yn ardal Trowbridge yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Bu farw Christine Jefferies, 72, a Stephen Jefferies, 74, mewn eiddo yn y brifddinas. 

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yng Nghilgant Morfa am tua 14.50 ddydd Sadwrn.

Cafodd y gŵr a'r wraig eu darganfod yn farw, ac fe gafodd dryll ei ddarganfod a'i feddiannu. 

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Christine a Stephen Jefferies ar yr adeg anodd hwn. 

"Mae ymholiadau helaeth yn parhau wrth i ni geisio sefydlu'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd ddydd Sadwrn."

Mae'r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol yn ôl y llu. 

Nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall yn ymwneud â'r marwolaethau ar hyn o bryd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.