Pam bod Corwynt Milton yn peri gymaint o bryder?
Mae rhai o drigolion arfordir gorllewinol Florida wedi derbyn rhybudd y gallen nhw farw os nad ydyn nhw’n gadael ar frys wrth i Gorwynt Milton agosáu.
Mae’r storm “unwaith mewn oes” yn anghyffredin am ei bod yn agosáu at Tampa Bay yn Florida o gyfeiriad y gorllewin, o ganol Gwlff Mecsico.
Milton oedd am gyfnod y pumed corwynt mwyaf dwys a gofnodwyd erioed gyda gwyntoedd yn cyrraedd 160mya.
Mae gwyddonwyr yn disgwyl i'r storm wanhau ychydig cyn cyrraedd y tir mawr, er y gallai gadw ei chryfder wrth iddi groesi canol Florida i Gefnfor yr Iwerydd.
Mae’r storm eisoes wedi gostwng o gategori 5 i 4 wrth agosáu at Benrhyn Yucatan ym Mecsico ond fe allai gryfhau eto dros y diwrnod nesaf.
Ond ymchwydd yn lefel y môr allai achosi'r mwyaf o ddifrod gyda miloedd o dai ar arfordir gorllewinol Florida ar lan y môr neu ar ymyl camlesi.
Mae disgwyl i lefel y môr godi 2.4 i 2.6 metr yn ardal Tampa Bay sy’n gartref i dros 3 miliwn o bobl, a dyna fyddai'r ymchwydd mwyaf erioed yn yr ardal.
“Mae’n hynod brin i gorwynt ffurfio yng ngorllewin y Gwlff, symud tua’r dwyrain, a glanio ar arfordir gorllewinol Florida,” meddai Jonathan Lin, gwyddonydd atmosfferig ym Mhrifysgol Cornell.
“Mae gan hyn oblygiadau mawr gan fod cyfeiriad y storm yn chwarae rhan wrth benderfynu lle bydd yr ymchwydd mwyaf.”
Daw Milton wythnos a hanner yn unig wedi i Gorwynt Helene adael dinistr mewn chwe thalaith gan gynnwys Florida, gan ladd 231 o bobol.
Dywedodd Llywodraethwr Florida, Rob DeSantis bod angen clirio'r difrod blaenorol ar frys rhag iddo greu perygl ychwanegol.