Newyddion S4C

Atal gwasanaethau geni gartref yn ardal Abertawe oherwydd ‘pwysau difrifol’ Covid-19

ITV Cymru 13/07/2021
Claire Timbrell gyda'i babi

Mae gwasanaethau genedigaeth gartref Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael eu hatal o ganlyniad i “bwysau difrifol” sydd wedi ei achosi gan goronafeirws.

Dywedodd y bwrdd iechyd y gwnaeth y “penderfyniad anodd” i atal y gwasanaethau ar ôl i sawl aelod o staff aros i ffwrdd o’r gwaith am eu bod nhw’n sâl gyda’r feirws neu’n hunan-ynysu.

Bu’n rhaid i Claire Timbrell o Abertawe deithio o’i chartref i’r ysbyty pan ddarganfyddodd hi nad oedd bydwreigiau ar gael ar gyfer ei genedigaeth gartref hi, a hynny ar ôl iddi ddechrau rhoi genedigaeth.

Dywedodd Ms Timbrell wrth ITV Cymru: “Dechreuon ni [yr enedigaeth] gartref, ac roedd popeth yn gwbl iawn. Roeddwn i wedi rhentu pwll geni – roeddwn i’n teimlo’n ymlaciedig yn fy amgylchedd fy hun, ac yn barod i roi genedigaeth gartref.

“Yn anffodus, pan gyrhaeddodd y bydwreigiau, daeth hi i’r amlwg yn sydyn mai ambell awr oedd ar ôl ar eu sifft – ac roedden nhw’n gwybod nad oedd unrhyw un ar gael ar ôl y sifft i ddod mewn. Roeddwn i’n gwybod nad oedd neb ar gael bryd hynny.

Image
Babi bach yn cysgu
Cynllun gwreiddiol Ms Timbrell oedd i roi genedigaeth gartref. (Llun: Claire Timbrell)

“Felly, roedd fy opsiynau wedi eu cyfyngu braidd i “mae’n rhaid i ti fynd i’r ysbyty”. Erbyn hynny, roeddwn i eisoes yn y pwll geni, ac wedyn yn clywed bod rhaid i nhw fy nghael i mas o’r pwll, fy ngwisgo, fy nghludo i lawr y grisiau ac mewn i’r car, a fy nghludo i’r ysbyty.”

Ychwanegodd Ms Timbrell: “Roeddwn i’n weddol realistig am y ffaith os byddai unrhyw broblemau meddygol y byddai’n rhaid i fi fynd i’r ysbyty.

“Roeddwn i’n barod am hynny. Ond doeddwn i byth wedi dychmygu mai un o’r problemau hynny fyddai’r ffaith nad oedd unrhyw fydwragedd ar sifft.”

Image
CLAIRE TIMBRELL A BABI
Cludwyd Claire i’r ysbyty ar ôl dechrau rhoi genedigaeth gartref (Llun: Claire Timbrell)

Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, bu’n rhaid i Claire roi genedigaeth Gesaraidd (Caesarean) i’w mab Edward.

Mae hi wedi canmol y bwrdd iechyd am y gofal gwnaeth hi ei dderbyn, er nid dyma oedd y profiad oedd ganddi hi mewn golwg.

“Safon y gofal, proffesiynoldeb, trugaredd, popeth, galla i ddim dweud gair drwg amdanyn nhw ac roeddwn i’n sicr yn y lle cywir. Mae’n anhygoel beth mae’r bobl hynny’n ei wneud.”

“Ond mae’n rhaid deall mai nid dyma oedd sut dychmygais i’r enedigaeth, er fy mod i’n deall y rhesymau dros hyn yn llwyr.

“Roedd e’n wirioneddol stressful. Fy neges i famau sy’n disgwyl nawr ac sydd wedi derbyn y newyddion bod dim modd iddynt roi genedigaeth gartref yw – a dwi’n siŵr dydy hyn siŵr o fod ddim yn gysur i nifer – ond mi wyt ti’n mynd i fod yn iawn. Mae’r ysbyty yn gwbl anhygoel a bydd y tîm yn gofalu amdanot ti.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.