Newyddion S4C

Pa fwytai TGI Fridays sy'n cau yng Nghymru?

08/10/2024
TGI Fridays

Mae cwmni TGI Fridays wedi cyhoeddi y bydd 1,000 o weithwyr yn colli eu swyddi a 35 o'u bwytai yn cau ar unwaith. 

Bydd bwyty y cwmni ar Ffordd Casnewydd, Caerdydd, a'u bwytai yng Nghasnewydd ac Abertawe i gyd yn cau. Bydd un bwyty yn aros ar agor yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Mae cytundeb newydd rhwng cwmnïau Breal Capital a Calveton UK wedi golygu fod 51 o fwytai wedi cael eu hachub rhag gorfod cau, gyda bron i 2,400 o swyddi yn ddiogel.

Dywedodd prif weithredwr TGI Fridays UK Julie McEwan: "Rydym ni mor drist dros ein cydweithwyr a fydd yn gadael TGIs ac yn diolch iddynt am eu ffyddlondeb a'u cyfraniad yn ystod eu hamser gyda ni.

"Rydym yn gwneud popeth posibl i gadw ein tîm a chefnogi’r rhai sydd wedi eu heffeithio."

Dywedodd undeb Unite fod aelodau wedi bod yn cysylltu gyda'r trefnwyr lletygarwch mewn ymateb i'r cyhoeddiad y byddai 35 o fwytai yn cau ar unwaith. 

Ychwanegodd yr undeb fod staff wedi cael eu cloi allan o'r bwytai, neu heb dderbyn unrhyw ffurf o ymgynghoriad diswyddiad, tra bod eraill wedi cael eu gwahodd i alwad fideo gydag aelodau o'r brif swyddfa awr yn unig cyn y cyhoeddiad. 

Cafodd TGI Fridays ei lansio gyntaf yn Efrog Newydd ym 1965, ac mae 130 o fwytai yn parhau yn UDA heddiw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.