Y prif bethau ydan ni wedi eu dysgu o'r ymchwiliad teledu newydd i Neil Foden
Mae BBC Wales Investigates, 'My Headteacher the Paedophile' yn datgelu honiadau newydd yn ymwneud a'r cyn bennaeth ysgol Neil Foden.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
Dyma rai o brif ganfyddiadau'r rhaglen sydd yn cael ei darlledu nos Fawrth:
Mae'n bosib bod Neil Foden wedi bod yn cam-drin am dros 40 mlynedd
Mae'r rhaglen yn datgelu honiadau o gam cam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr.
Mae’r honiadau yn dyddio yn ôl i 1979, ac mae posibilrwydd fod dros bedair gwaith yn fwy o ferched a menywod wedi eu cam-drin ganddo ef, meddai'r rhaglen.
Mae un o' dioddefwyr posib, Nia – nid ei henw iawn – yn un o'r rheini sydd wedi siarad â'r rhaglen.
Roedd hi'n un o ddisgyblion cyntaf Foden tra'r oedd yn dysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda yn 1979.
Mae’n dweud bod Foden yn ei thargedu pan oedd hi ar ei phen ei hunain yn y dosbarth gydag o.
“Fel merch 13 oed, doeddwn i ddim yn sylweddoli yn union beth oedd yn digwydd," meddai.
"Ro'n i'n ei ofn o, o’n i’n agored i niwed yr oedran hwnnw ac yn naïf, ac roedd o’n gwybod hynny."
Cwestiynau pellach i Gyngor Gwynedd
Clywodd achos llys Neil Foden fod athro wedi codi pryderon am y sefyllfa roedd Neil Foden yn rhoi ei hun ynddo wrth gynnal cyfarfodydd preifat gyda phlant nôl yn 2019.
Fe aeth â’r pryderon at Garem Jackson, oedd ar y pryd yn bennaeth addysg Cyngor Gwynedd.
Ond yn dilyn sgwrs gydag uwch swyddog lles y cyngor penderfynwyd peidio ag ymchwilio’n bellach gan nad oedd honiad o gam-drin plentyn.
Mae'r rhaglen yn dweud bod y BBC ar ddeall bod pedwar o weithwyr y cyngor yn rhan o'r penderfyniad i beidio ag ymchwilio, a bod tri yn dal i gael eu cyflogi yno.
Yn 2019 fe gafodd adroddiad cyfrinachol ei gomisiynu gan Gyngor Gwynedd i edrych ar y ffordd roedd yr ysgol yn cael ei rhedeg ymysg pryderon am fwlio staff gan Neil Foden, a arweiniodd at golli dau dribiwnlys.
Siaradodd y rhaglen gydag un o awduron yr adroddiad, Michael Sol Owen.
"Fe ddywedon ni os nad oedd pethau'n newid fod yna beryg y gallai pethau ddigwydd eto," meddai.
"Tribiwnlys neu adroddiad feirniadol.
"Dydw i ddim yn gallu deall pam na wnaethon nhw ymdrech o ddifrif i edrych ar beth oedd wedi digwydd."
'Mynegi pryderon ddegawd yn ôl'
Dywedodd John Nicholson, cyn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Friars lle'r oedd Neil Foden yn bennaeth, wrth y rhaglen ei fod wedi mynegi ei bryderon wrth adran addysg Cyngor Gwynedd ddegawd yn ôl.
"Y prif bethau yr oeddwn i yn eu trafod oedd y ffordd oedd pobl yn cael eu beio yn anghywir, peidio dilyn y prosesau y dylai ysgol eu dilyn, y tactegau bwlio," meddai.
Ychwanegodd fod ymateb Foden wedi bod yn "wrthwynebus i ddweud y lleiaf".
Dywedodd Mr Nicholson mai Foden oedd yn rhedeg y corff llywodraethu yn Ysgol Friars yn ystod ei gyfnod yno.
Bellach wedi ymddeol, mae Mr Nicholson hefyd yn cofio cael pryderon eraill am Foden.
"Hyd yn oed ar y diwrnod cyntaf pan ddangosodd yr ysgol i mi, sylweddolais ei fod yn edrych ar goesau merched mewn ffordd amhriodol," meddai.
Ni wnaeth Mr Nicholson godi'r pryderon hyn, a hynny oherwydd "ei fod ddim ond yn arsylwad ac ro'n i'n llywodraethwr newydd. Do'n i ddim yn gwybod unrhyw beth am lywodraethiant ar yr adeg hynny".
"Hefyd, ro'n i'n gwybod os y byddech chi'n codi rhywbeth fel yna gyda Foden, byddai eich pen chi'n cael ei dorri i ffwrdd yn syth."
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddai adolygiad annibynnol yn dod o hyd i’r “gwersi sydd i’w dysgu” er mwyn atal achosion tebyg yn y dyfodol.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cynnal adolygiad trylwyr er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth ganddyn nhw.
Rhannu gwesty gyda merch 'cyn siarad yn y Senedd'
Dywedodd un o'r merched yn yr achos llys fod Foden wedi ei chludo i westai o gwmpas y wlad tra'r oedd yn mynychu cyfarfodydd.
Mae'r ymchwiliad newydd wedi darganfod fod rhai o'r digwyddiadau yma yn cyd-fynd gyda phan oedd Foden yn siarad o flaen un o bwyllgorau y Senedd.
Tebygrwydd rhwng achos John Owen a Neil Foden
Ugain mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd adroddiad Clywch gan gomisiynydd plant cyntaf Cymru, Peter Clarke.
Fe gadarnhaodd yr adroddiad i John Owen, oedd yn athro drama ac yn awdur ar y nofelau oedd yn sail i'r gyfres deledu boblogaidd Pam fi Duw?, gam-drin nifer ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen yn rhywiol dros sawl blwyddyn.
Un o amcanion yr adroddiad oedd argymell gwelliannau allai rwystro cam-drin plant yn y dyfodol.
Clywodd y bargyfreithiwr Nicholas Cooke KC dystiolaeth a arweiniodd at argymhellion a oedd fod i sicrhau newid.
"Dwi wedi fy arswydo wrth ddarllen am yr hyn wnaeth Foden, ac ro'n i wedi gobeithio y byddai'r argymhellion yn Clywch wedi atal hyn," meddai wrth y rhaglen.
"Mae yna sawl tebygrwydd rhwng John Owen a Neil Foden - roedden nhw'n bersonoliaethau allblyg, dynion hyderus oedd yn gallu creu argraff ar gynulleidfa fawr o bobl."
Beth sydd i ddod?
Dywedodd y cyfreithiwr Kathryn Yates y gallai Cyngor Gwynedd orfod talu “miliynau” o bunnoedd mewn iawndal a chostau cyfreithiol.
Mae hi'n cynrychioli dwsin o bobl sy'n dweud eu bod wedi dioddef camdriniaeth gan Foden, ac yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Gwynedd ar eu rhan.
“Mae fy nghleient cyntaf bellach yn ei 50au, a’r ieuengaf yn 14 oed... mae'r cyngor yn atebol am weithredoedd ei weithwyr,” meddai.
Bydd modd gwylio BBC Wales Investigates: My Headteacher the Paedophile ar BBC One Wales a BBC iPlayer am 20.30 nos Fawrth.