Newyddion S4C

‘Pentre Cythraul’: Dadl dros gydnabod enw Cymraeg pentref

08/10/2024
New Brighton

Mae rhai trigolion yn gwrthwynebu cydnabod enw Cymraeg pentref yn Sir y Fflint oherwydd pryderon fod ganddo arwyddocâd dieflig.

New Brighton yw enw’r pentref ger yr Wyddgrug yn Saesneg a dyw’r enw Cymraeg ‘Pentre Cythraul’ heb ei gydnabod yn ffurfiol.

Mae rhai trigolion wedi galw am gynnwys yr enw Cymraeg ar restr enwau lleoedd swyddogol Comisiynydd y Gymraeg.

Ond ar ôl ymgynghoriad gan y cyngor sir daeth i’r amlwg bod rhai trigolion eraill wedi mynegi gwrthwynebiad i hynny o ystyried natur yr enw.

Bydd cynghorwyr yn Sir y Fflint yn penderfynu'r wythnos hon a ydyn nhw am fabwysiadu'r enw Cymraeg yn ffurfiol.

Y gred yw mai at gyfenw Josiah Catherall, diwydiannwr a gododd adeiladau cyntaf y pentref yn yr 19eg ganrif, mae’r enw yn cyfeirio.

Dywedodd Claire Homard, prif swyddog Cyngor Sir y Fflint dros addysg a phlentyndod, fod yna “arwyddocâd negyddol” i’r enw ‘Pentref Cythraul’.

Roedden nhw’n ystyried mabwysiadu awgrym Comisiynydd y Gymraeg sef ei alw yn Pentre Cythrel yn lle.

“Mae’r comisiynydd wedi nodi cefnogaeth i’r defnydd o ffurf Gymraeg swyddogol New Brighton,” meddai.

“Ond mae’n well ganddi Pentre Cythrel, gan fod yr enw yn ddatblygiad llafar o ‘Catherall’ ac yn adlewyrchu sut mae’r enw’n cael ei ynganu’n lleol.

“Byddai defnyddio ‘cythraul’ yn gam pellach i ffwrdd o’r enw llafar gwreiddiol.

“Mae trigolion lleol sy’n defnyddio’r enw Cymraeg Pentre Cythraul yn gefnogol i awgrym y panel sef Pentre Cythrel.

“Bydd yr enw Cymraeg Pentre Cythrel hefyd yn mynd i’r afael â’r gwrthwynebiadau a godwyd yn yr ymgynghoriad sef arwyddocâd negyddol Pentre Cythraul (Devil’s Village).”

‘Cyfartal’

Mae’r enw Pentre Cythraul wedi cael ei ddefnyddio’n lleol fel ffurf Gymraeg New Brighton ers blynyddoedd lawer ac mae wedi’i gynnwys ar drwyddedau gyrru a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Mae hefyd yn ymddangos ar sawl arwydd yn y pentref, gan gynnwys un ar Ganolfan Gymunedol New Brighton.

Dywedodd Ms Homard y byddai angen diweddaru'r Rhestr Tir ac Eiddo Lleol (LLPG) i adlewyrchu unrhyw newidiadau a hysbysu cyrff megis yr Arolwg Ordnans a'r Post Brenhinol.

Ychwanegodd: “Bydd cydnabod ffurf Gymreig New Brighton yn ffurfiol yn cefnogi strategaeth hybu’r Gymraeg y cyngor drwy godi amlygrwydd yr iaith. 

“Mae hefyd yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg.

“Ni fyddai mabwysiadu enw Cymraeg yn golygu unrhyw gostau ychwanegol gan fod modd newid arwyddion pan fyddant yn cael eu hadnewyddu.”

Bydd gofyn i aelodau pwyllgor craffu adnoddau corfforaethol Sir y Fflint gymeradwyo’r enw Cymraeg newydd ar gyfer New Brighton mewn cyfarfod ddydd Iau.

Bydd wedyn yn mynd i gabinet y cyngor am benderfyniad terfynol, cyn y gellir hysbysu’r comisiynydd i’w gynnwys ar y rhestr swyddogol o enwau lleoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.