Rhybudd melyn: Trafferthion teithio o ganlyniad i'r gwynt
Mae gwyntoedd wedi achosi trafferthion teithio i rai gyda rhybudd melyn mewn grym ddydd Sadwrn sy'n cynnwys rhan o arfordir gogledd Cymru.
Bydd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym o 07:00 tan 23:59, gan effeithio ar siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn yn cael eu heffeithio.
Bu'n rhaid cau Pont Hafren ar yr r M48 i’r ddau gyfeiriad am gyfnod oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Dywedodd Maes Awyr Heathrow fod “nifer fechan o hediadau” wedi’u canslo ddydd Sadwrn oherwydd “gwyntoedd cryfion a chyfyngiadau gofod awyr”.
Cadarnhaodd P&O Ferries hefyd fod teithiau rhwng Larne a Cairnryan wedi’u canslo am o leiaf 24 awr.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd rhybudd melyn pellach am wynt mewn grym o 00:00 tan 21:00 ddydd Sul hefyd.
Mae disgwyl y bydd hyrddiadau o hyd at 60mya, gyda rhai ardaloedd arfordirol yn profi hyrddiadau o hyd at 70mya.
Fe allai hyn achosi oedi ar y ffyrdd ac i wasanaethau trenau a fferïau, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
"Gallai gael mwy o effaith nag arfer o ystyried y bydd cynnydd yn nifer y teithwyr ar y penwythnos cyn y Nadolig," meddai llefarydd.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio fod perygl i ffyrdd a chymunedau arfordirol gael eu heffeithio gan donnau mawr.