Newyddion S4C

Bangor: Carcharu dyn am ymosod yn rhywiol ar blentyn

08/10/2024
Terrance Lloyd

Mae dyn 38 oed wedi ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar blentyn ym Mangor.

Roedd Terrance Lloyd wedi dilyn merch 13 oed i’w chartref yn y ddinas yng Ngwynedd ar 2 Gorffennaf 2023.

Roedd wedi ei tharo ar ei phen ôl, a’i phlagio am ei rhif ffôn hyd yn oed ar ôl iddi ddweud ei hoedran wrtho a gofyn iddo roi’r gorau iddi.

Ymddangosodd Terrance Lloyd, sydd heb gyfeiriad sefydlog, gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener ar ôl ei gael yn euog o ymosodiad rhywiol.

Cafodd ei garcharu am 44 wythnos. Rhaid iddo hefyd gofrestru gyda'r heddlu am gyfnod o saith mlynedd.

Dywedodd PC Amie, y swyddog fu’n ymchwilio i’r achos: “Roedd y dioddefwr yn yr achos hwn yn hynod ddewr wrth ddod ymlaen a rhoi gwybod i ni beth oedd wedi digwydd.

“Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched a byddwn yn ymchwilio’n llawn i unrhyw adroddiadau ydyn ni’n eu derbyn.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n profi trais o unrhyw fath i ddod ymlaen, byddwn yn gwrando, a byddwn yn eich cefnogi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.