Mam wedi clywed sgrechfeydd 'erchyll' plant wrth i fws droi ar ei ochr
Mae mam wedi disgrifio sgrechfeydd "erchyll" plant wedi i fws droi ar ei ochr yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Iwerddon fod 43 o bobl a'r gyrrwr ar y bws yn Swydd Down, a bod pedwar o'r disgyblion wedi eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu eu bywyd.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Roedd un mam, Stacey Lee, ar y ffôn gyda'i mab adeg y digwyddiad.
Dywedodd "Ro'n i'n gallu ei glywed yn sgrechian fod y bws wedi bod mewn gwrthdrawiad, ac ro'n i'n clywed yr holl blant yn y cefndir yn sgrechian.
"Roedd o'n ofnadwy."
Roedd y bws wedi bod yn cludo disgyblion o Goleg Strangford i Fangor.
Dywedodd pennaeth y coleg Clare Foster: "Mae hwn wedi bod yn brofiad anodd iawn i'r disgyblion, eu teuluoedd a'r gymuned ysgol yn ehangach."
Roedd mab Stacey Lee, Dylan Lee, disgybl ym mlwyddyn 8, ar y bws.
Dywedodd: "Roeddwn i ar y llawr cyntaf ar y bws ar yr ochr dde. Ro'n i'n eistedd gyda fy ffrind: Mae'n oce, ond mae wedi brifo ei fraich.
"Fe darodd y bws bostyn a dechreuodd arafu cyn mynd i lawr allt.
"Dechreuodd ysgwyd. Caeais fy llygaid a phan agorais nhw, ro'n i ar y llawr."
Ychwanegodd: "Y peth cyntaf wnes i ar ôl codi oedd ffonio fy Mam."
Bydd yr Awdurdod Addysg yn gweithio gyda'r ysgol i ddarparu cefnogaeth ar gyfer unrhyw un o'r plant sydd wedi eu heffeithio gan y gwrthdrawiad.