Newyddion S4C

XL Bully yn achosi anafiadau 'fydd yn newid bywyd' merch 12 oed

07/10/2024
Heddwas

Mae merch 12 oed wedi cael ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau “fydd yn newid ei bywyd” yn dilyn ymosodiad gan XL Bully ddydd Llun.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i’r Cilgant ym Mrynmawr ym Mlaenau Gwent am tua 17.50 brynhawn Llun yn dilyn adroddiadau yn ymwneud ag ymosodiad gan gi.

Mae dyn 37 oed a menyw 42 oed o ardal Brynmawr wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gi sydd wedi'i fridio ar gyfer ymladd yn ogystal â pherchen ar gi peryglus “allan o reolaeth.”

Fe fydd y ddau yn parhau i gael eu cadw yn y ddalfa.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu afael ar y ci er mwyn ei ddifa. Nid oedd unrhyw anifeiliaid eraill yn gysylltiedig â’r ymosodiad.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd John Davies: “Roedd hwn yn ddigwyddiad oedd yn peri gofid.

“Hoffwn roi sicrwydd i’r gymuned leol nad oes perygl bellach i’r cyhoedd.”

Dywedodd bod posibilrwydd y byddai mwy o swyddogion yr heddlu yn bresennol yn yr ardal am gyfnod.

Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400334368.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.