Newyddion S4C

Arestio dyn yn ei 60au ar amheuaeth o ddynladdiad bachgen 16 oed

07/10/2024
Tomos Llŷr Davies

Mae dyn yn ei 60au wedi ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod difrifol mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen 16 oed mewn chwarel yn Sir Benfro. 

Bu farw Llŷr Davies oedd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thryc yn chwarel Gilfach ger Efailwen fis Mawrth eleni. 

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechniaeth tra bod ymholiadau yn parhau.

Mewn achos llys ar wahan mae athro wedi gwadu ymosod ar Llŷr Davies dridiau cyn ei farwolaeth.

Clywodd y llys nad yw'r achos hwnnw yn gysylltiedig â'i farwolaeth mewn unrhyw ffordd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.