Newyddion S4C

'Tad gorau'r byd': Teyrngedau i redwr fu farw ar ôl cwblhau Hanner Marathon Caerdydd

ITV Cymru 07/10/2024
Stephen Jenkins

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i dad 37 oed o Sir Gaerfyrddin wedi iddo farw ar ôl cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul. 

Fe gwympodd Stephen Jenkins ar y llinell derfyn cyn iddo gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble y bu farw yn ddiweddarach. 

Roedd Mr Jenkins wedi dioddef ataliad y galon ac fe gafodd driniaeth gan y tîm brys meddygol oedd yn bresennol, yn ôl trefnwyr y digwyddiad, Run 4 Wales.

Mae ei fam a’i dad, Karen a Dyfrig Jenkins bellach wedi rhoi teyrnged iddo ddydd Llun gan ei ddisgrifio fel “mab anhygoel, partner cariadus, a thad anhygoel".

Fe gafodd Mr Jenkins ei fagu yn Rhydaman a derbyniodd ei addysg uwch ym Mhrifysgol Rhydychen cyn iddo symud i Lundain ble’r oedd yn byw gyda’i bartner, Rhiannon Cole, a’u merch 18 mis oed, Mabli. 

'Ffrind i bawb'

Dywedodd ei dad Dyfrig Jenkins: “Roedd Stephen yn ffrind i bawb. Roedd yn ofalgar iawn, yn ffyddlon iawn ac yn wych gyda phlant. 

“Roedd Stephen yn rhedwr a seiclwr brwd ac mi oedd yn angerddol iawn dros rygbi Cymru. 

“Roedd yn hefyd yn angerddol iawn dros ei wreiddiau Cymreig a’r iaith Gymraeg. Er bod ei ferch yn cael ei magu yn Walthamstow, mae hi eisoes yn gallu siarad ychydig o’r Gymraeg. 

“Roedd Stephen yn fab anhygoel trwy gydol ei fywyd. Roedd yn mor garedig a gofalgar. 

“Ef oedd tad gorau’r byd i’n hwyres Mabli a phartner anhygoel i Rhiannon.” 

'Cydymdeimlad'

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman, bod eu cydymdeimladau’r gyda’i deulu a’i ffrindiau. 

“Roedd y tîm meddygol a’r gwasanaethau brys wedi ymateb yn brydlon ac yn broffesiynol wedi iddo faglu wrth y llinell derfyn ac fe gafodd triniaeth feddygol arbenigol o fewn munud," meddai.

“Mae Run 4 Wales yn cydweithio gydag elusen sy’n rhoi cymorth i bobl yn ystod cyfnod o alaru, sef 2Wish, ac mi fyddan nhw’n cefnogi teulu a ffrindiau Stephen.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.