'Sŵn bomiau yn lle sŵn plant' ar strydoedd Israel
'Sŵn bomiau yn lle sŵn plant' ar strydoedd Israel
Wrth deithio i ogledd Israel, ry’n ni’n agosau at y rhyfel.
Ar y draffordd, cerbydau milwrol sydd yn gwmni i ni. Mewn cae gerllaw, mae degau o gerbydau arfog mewn rhesi taclus. Ac yn hedfan uwchben, sŵn awyrennau ac hofrenyddion milwrol Israel yn hymian.
Yn Qyriat Shmona, mae’r strydoedd yn wag. Tref fechan yw hon sydd fel arfer yn gartref i ryw 22,000 o bobl. Ar Hydref yr 20fed y llynedd, dywedodd yr awdurdodau y dylai pobl adael.
Ers i Hamas ymosod ar Hydref y seithfed y llynedd, gan ladd 1,200 o bobl Israel a chipio 251 yn rhagor yn wystlon, roedd Hezbollah yn Libanus hefyd wedi bod yn saethu taflegrau dros y ffin. A Qyriat Shmona yn darged cyson.
Tra bod mwyafrif y trigolion wedi ffoi, mae Ariel Frisch wedi aros. Athro mathemateg a rheolwr ysgol uwchradd yw e wrth ei waith bob dydd. Ond heddiw, yn gyda dryll Americanaidd M4 dros ei ysgwydd, fe sydd yn gyfrifol am gadw ei dref yn ddiogel.
“Mae’n drist i weld y strydoedd mor dawel,” meddai. “Clywed sŵn tawelwch yn lle sŵn pobl, sŵn bomiau yn lle sŵn plant.”
Ers blwyddyn bron, mae ei wraig a’i wyth o blant yn byw mewn rhan arall o’r wlad, ac Ariel ond yn eu gweld bob ychydig wythnosau.
Ry’n ni’n crwydro o amgylch y dref, yn tystio i’r difrod sydd, yn ôl Ariel, wedi ei achosi gan daflegrau Hezbollah.
Yng Nghymru, mae rhai wedi bod yn protestio yn erbyn cyrchoedd milwrol Israel yn Libanus ac yn Gaza. Ry’n ni’n gofyn i Ariel am ei ymateb.
“Gallan nhw ddod yma i fyw gyda fi,” yw ei ymateb. “Gallan nhw ddod i fyw ger bygythiad Hezbollah a dw’i ddim yn credu byd dunrhyw un sydd yn gwneud hynny yn ein cyhuddo ni o fod yn llawdrwm.”
Filltir i ffwrdd, tu hwnt i’r ffin, mae rhai o drefi a phentrefi Libanus hefyd wedi profi difrod, trigolion yno wedi gadael eu cartrefi.
Ond parhau mae’r ddwy ochr i saethu.
Tra’n ffilmio yn y dre, mae ffrwydrad mawr yn tarfu ar y tawelwch. Dyw hi ddim yn glir ai taflegrau Israel yn cael eu saethu i Libanus yw sŵn y ffrwydro neu daflegrau Hezbollah yn dod tuag aton ni.
Ond mae’r ergydion yn agos yn dystiolaeth bod y rhyfela yn fyw iawn yn yr ardal yma.
Ry’n ni’n gadael y rhan yna o’r dref. Yn teithio i ardal mwy diogel.
Ar Hydref y seithfed llynedd, cafodd dros fil o bobl Israel eu lladd gan Hamas.
Yn y flwyddyn ganlynol yn Gaza, mae dros 42,000 o bobl wedi eu lladd yn ôl y gwasanaeth iechyd sydd dan ofal Hamas.
Ac yn Libanus nawr mae cannoedd yn rhagor hefyd wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro. Mae miloedd wedi gorfod ffoi rhag eu cartrefi, gan adael eu bywydau ar chwâl.
Wrth i’r brwydro barhau, caledu mae agweddau pobl ar bob ochr i’r gwrthdaro diweddar. A dim diwedd mewn golwg i’r ymladd.
Lluniau gan Sam Robinson.