Rhybudd am sgamiau ar-lein sy’n targedu teithwyr Bws Caerdydd
Mae Bws Caerdydd yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio cael eu twyllo gan sgam sy’n addo teithiau am ddim ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r negeseuon, sydd i’w gweld yn bennaf ar Facebook, yn honni eu bod yn gysylltiedig â’r ‘IFF’, sef platfform mae Bws Caerdydd yn defnyddio ar gyfer talu am deithiau o flaen llaw.
Mae’r sgam yn cynnwys linc ffug sy’n honni bod modd derbyn chwe mis o deithio am ddim yng Nghaerdydd.
Mae bws Caerdydd wedi rhybuddio fod hyn yn dwyllodrus ac wedi adrodd yr achos i Facebook.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael defnyddio’n aml gan droseddwyr i dargedu dioddefwyr, ond wrth i dechnoleg ddatblygu, mae pryder fod eu tactegau’n mynd yn fwy soffistigedig.
Yn ôl Action Fraud, mae tua 22,350 o bobl wedi adrodd fod eu cyfrifon ar-lein wedi cael eu hacio yn 2023, gyda chyfanswm o £1.3 miliwn yn cael ei ddwyn o ddioddefwyr.