Honiadau pellach yn erbyn Neil Foden 'yn dyddio'n ôl dros 40 mlynedd'
Mae'n bosib bod y pedoffeil a’r cyn bennaeth ysgol Neil Foden wedi bod yn cam-drin disgyblion am gyfnod o dros 40 mlynedd, yn ôl rhaglen ddogfen newydd.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
Ond mae rhaglen BBC Wales Investigates, 'My Headteacher the Paedophile' yn datgelu honiadau o gam cam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr.
Mae’r honiadau yn dyddio yn ôl i 1979, ac mae posibilrwydd fod dros bedair gwaith yn fwy o ferched a menywod wedi eu cam-drin ganddo ef, meddai'r rhaglen.
Mae un cyn ddisgybl hefyd wedi honni ei bod wedi bod mewn cyswllt â Foden dros negeseuon testun hyd at ddiwrnod ei arestiad.
Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf, mae dwy cyn-ddisgybl ac un cyn cyd-weithiwr wedi trafod y profiad o gael eu targedu gan Neil Foden.
'Teimlo'n sbesial'
Dywedodd un cyn-ddisgybl, Jo – nid ei henw iawn – ei bod wedi cael ei thargedu gan Foden am bum mlynedd, gan gynnwys tra oedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd.
Roedd Jo yn y system gofal ar y pryd a hithau’n cael ei hadnabod fel ‘plentyn bregus.’
Dywedodd ei bod wedi derbyn dros 100 o negeseuon gan Neil Foden o’i gyfrif e-bost personol yn ogystal â’i rif ffon personol: “Roedd e’n nôl a ‘mlaen bob dydd, yn yr ysgol, y tu allan o’r ysgol, yn y bore, yn y nos, unrhyw bryd… ‘nath o ‘neud i fi teimlo’n sbesial.”
“Byddai’n fy nghofleidio a doeddwn i ddim bob amser yn ei eisiau fo i wneud felly byddwn i'n tynnu'n ôl, yna byddai'n fy nhynnu i mewn yn gryfach... jyst heb reswm, byddai ei ddwylo'n mynd o dan fy siwmper.
“Roedd e’n aml yn sbïo ar fy nghoesau a breichiau er mwyn gwirio nad oeddwn i wedi hunan-niweidio.
“Os oedden nhw ar fy nghluniau, roeddwn i yn gwisgo sgert yn aml, felly byddai ef yn codi’r sgert er mwyn edrych arnyn nhw.”
Fe sylweddolodd Jo ei bod wedi cael ei cham-drin gan Neil Foden wedi iddo gael ei arestio yn ei weithle ym mis Medi 2023, meddai.
'Ofn'
Roedd Nia – nid ei henw iawn – yn un o ddisgyblion cyntaf Foden tra'r oedd yn dysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda yn 1979.
Mae’n dweud bod Foden yn ei thargedu pan oedd hi ar ei phen ei hunain yn y dosbarth gydag o.
Dywedodd y byddai Foden yn sefyll y tu ôl iddi gan adael i’w fraich dde orffwys yn erbyn ei bron.
“Fel merch 13 oed, doeddwn i ddim yn sylweddoli yn union beth oedd yn digwydd," meddai.
"Ro'n i'n ei ofn o, o’n i’n agored i niwed yr oedran hwnnw ac yn naïf, ac roedd o’n gwybod hynny."
Doedd Nia ddim wedi mynd at yr heddlu adeg ei chamdriniaeth gan ei bod yn ofni na fyddai unrhyw un yn ei choelio, ond fe aeth hi at yr heddlu wedi i Foden gael ei arestio yn 2023.
Carcharu
Roedd Rose – nid ei henw iawn – yn gyd-weithiwr Neil Foden hyd at yr adeg y cafodd ei arestio.
Fe gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan Foden yn ystod cyfarfod rhyngddyn nhw yn ei swyddfa ym mis Rhagfyr 2022.
Doedd Rose ddim wedi trafod y digwyddiad gydag unrhyw un ar y pryd, ond yn dilyn ei arestiad, fe aeth at Heddlu Gogledd Cymru er mwyn gwneud datganiad yn ei erbyn. Cafodd ei gyhuddo wedi hynny, ond doedd yr achos penodol hwnnw ddim wedi cyrraedd y llys.
Roedd Foden wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn yn ystod ei achos llys ond fe gafodd ei garcharu am 17 mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Adolygiad
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddai adolygiad annibynnol yn dod o hyd i’r “gwersi sydd i’w dysgu” er mwyn atal achosion tebyg yn y dyfodol. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cynnal adolygiad trylwyr er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth ganddyn nhw.
Ond mae Jo a Nia wedi dweud nad oes unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r adolygiad wedi cysylltu gyda nhw hyd yma.
Dywedodd y bwrdd adolygu nad oedden nhw'n ymwybodol o'r ddwy ddynes nes i'r BBC gysylltu â nhw.
Fe ddywedon nhw eu bod yn “gwbl ymwybodol” y gallai dioddefwyr a goroeswyr eraill fodoli a’u bod yn awyddus i glywed ganddyn nhw.
Dywedodd y cyfreithiwr Kathryn Yates y gallai Cyngor Gwynedd orfod talu “miliynau” o bunnoedd mewn iawndal a chostau cyfreithiol.
Mae hi'n cynrychioli dwsin o bobl sy'n dweud eu bod wedi dioddef camdriniaeth gan Foden, ac yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Gwynedd ar eu rhan.
“Mae fy nghleient cyntaf bellach yn ei 50au, a’r ieuengaf yn 14 oed... mae'r cyngor yn atebol am weithredoedd ei weithwyr,” meddai.
Bydd modd gwylio BBC Wales Investigates: My Headteacher the Paedophile ar BBC One Wales a BBC iPlayer am 20.30 nos Fawrth.