
O Ganada i Gymru: Artistiaid o genhedloedd brodorol i berfformio ym Methesda
Bydd artistiaid o genhedloedd brodorol yng Nghanada yn perfformio mewn gŵyl yng Ngwynedd dros y penwythnos.
Mae Neuadd Ogwen ym Methesda wedi gwahodd artistiaid o'r wlad yng Ngogledd America i berfformio yng ngŵyl Mawr y Rhai Bychain ar nos Wener a nos Sadwrn.
Byddan nhw'n perfformio ochr yn ochr ag artistiaid Cymreig, gan gynnwys y delynores Catrin Finch a'r grŵp Plu.
Yn ôl rheolwr Neuadd Ogwen, Dilwyn Llwyd, bwriad y digwyddiad yw "dathlu gweledigaeth, cariad a chefnogaeth y neuadd i ddiwylliannau brodorol".
Cafodd ei drefnu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Canada a'r Uwchgynhadledd Cerddoriaeth Frodorol Ryngwladol.
Mae mwy na 1.8 miliwn o bobl yng Nghanada yn dweud eu bod yn frodorol, sef 5% o'i phoblogaeth.
Mae tri grŵp brodorol cydnabyddedig yn y wlad – y Cenhedloedd Cyntaf, yr Inuit a'r Métis.
Mae dros 630 o gymunedau Cenhedloedd Cyntaf, sy'n cynrychioli mwy na 50 o wledydd a 50 o ieithoedd brodorol.
'Braint'
Mewn datganiad, dywedodd Dilwyn Llwyd ei bod yn "fraint" cael gwahodd artistiaid o genhedloedd brodorol yng Nghanada i Gymru.
"Sefydlwyd Mawr y Rhai Bychain i agor y ddeialog rhwng y gymuned Gymraeg a chymunedau, ieithoedd a diwylliannau brodorol eraill," meddai.
"Eleni mae’n fraint i ni wahodd llawer o artistiaid, blaenoriaid ac arweinwyr cymunedol o genhedloedd brodorol yng Nghanada i rannu eu cerddoriaeth a’u diwylliannau amrywiol gyda’n cymuned."
Ychwanegodd: "Nod y digwyddiad hwn yw hybu dealltwriaeth, empathi a dathlu safbwyntiau ac ieithoedd brodorol."
Bydd yr ŵyl yn cael ei hagor ar nos Wener gan y delynores Gymreig, Catrin Finch a'r feiolinydd Gwyddelig, Aoife Ni Bhriain.
Hefyd yn perfformio'r noson honno mae'r grŵp drymio traddodiadol a chanu corawl Anishinaabeg, Nimkii and the Niniis.

Ar brynhawn dydd Sadwrn, bydd cyflwyniad a thrafodaeth banel am hanes, diwylliant ac ieithoedd brodorion yng Nghanada.
Mae'r panel yn cynnwys yr actifydd ShoShona Kish (Anishinaabe), y cynhyrchydd Denise Bolduc (Anishinaabe), a’r cerddorion Shauit (Innu), Nimkii and the Niniis (Anishinaabe a chenhedloedd brodorol eraill) a Siibii (Cree), gyda Lisa Jên o Fethesda.
Bydd y penwythnos yn dod i ben gyda pherfformiadau gan artistiaid o ogledd Cymru, Québec a Montréal.
Bydd Plu, sef triawd o ddwy chwaer a brawd o Wynedd – Elan, Marged a Gwilym Rhys – yn chwarae pop-gwerin Cymraeg amgen.
Bydd Shauit (Innu), brodor o arfordir gogleddol Québec, yn canu am gymhlethdod a harddwch cenedl Innu trwy asio gwerin a reggae.
Hefyd yn perfformio ar y nos Sadwrn mae'r artist pop brodorol, cwiar, traws o Montréal, Siibii (Cree).