Darganfod neges o'r 19eg ganrif yn galw am hunan-lywodraeth i Iwerddon yn Hen Goleg Aberystwyth
Mae darn o bren gyda'r geiriau 'Home Rule for Ireland' wedi ei ddarganfod wrth glirio adeilad yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.
Fe ddaeth gweithwyr o hyd i'r darn o bren a arwyddwyd gan unigolyn o'r enw John Williams gyda'r cyfeiriad '8 Stryd y Farchnad' a 'Chwefror 1888' wedi eu hysgrifennu arno yn adeilad De Seddon y brifysgol.
Yn sgil ymchwil gan Faye Thompson, Cydlynydd Casgliadau prosiect yr Hen Goleg, gwelwyd bod enw John Williams yn ymddangos yng nghofnodion Pwyllgor Adeiladu’r Brifysgol o 1888, a’i fod wedi gweithio fel saer coed y coleg rhwng 1888 a 1892.
“Mae John Williams yn un o’r nifer fawr o bobl sydd wedi gweithio ar yr Hen Goleg dros y ganrif a hanner diwethaf ac wedi cyfrannu at ei ddatblygiad," meddai Faye Thompson.
"Mae’r darn o bren sy’n dwyn ei enw yn rhoi cipolwg i ni ar y gorffennol, pwy ydoedd, lle’r oedd yn byw, beth oedd ei waith a’r hyn a gredai ynddo, ond byddai’n wych dysgu mwy amdano.”
Roedd hunan-lywodraeth i Iwerddon yn rhan o nod llywodraeth ryddfrydol y Prif Weinidog William Gladstone yn ystod 80au'r 19eg ganrif, ond ni lwyddwyd i gael bil ar y mater drwy Senedd San Steffan oherwydd gwahaniaeth barn o fewn ei blaid ei hun.
'Dathlu sylfaenwyr'
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd y cyhoedd i ddod ag unrhyw bethau cofiadwy sydd ganddynt am yr Hen Goleg i’r Bandstand yn Aberystwyth brynhawn dydd Gwener 11 Hydref, fel rhan o ddathliadau Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth.
Fe allai'r rhain fod yn unrhyw beth o hen ffotograffau, rhaglenni ac unrhyw bethau cofiadwy eraill sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth.
Fe fydd aelodau o'r prosiect yn y Bandstand ar y promenâd rhwng 12:00 a 16:00ac yn gallu sganio a dychwelyd unrhyw ffotograffau neu ddogfennau, ond mi fyddant hefyd yn hapus i drafod rhoddion i’r archif.
Dywedodd Faye Thompson: "Byddem ni’n falch iawn o glywed gan unrhyw un a hoffai rannu eitemau sy’n ymwneud â’r Hen Goleg a’r Brifysgol mewn rhyw ffordd, ac a fyddai’n ein galluogi i ychwanegu at hanes gwych y sefydliad hwn a’r dref."