Rhedwr wedi marw ar ôl cwblhau Hanner Marathon Caerdydd
07/10/2024
Mae trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd wedi cyhoeddi bod unigolyn oedd yn rhan o'r ras ddydd Sul wedi marw.
Mewn datganiad fore dydd Llun dywedodd Run 4 Wales: "Gyda thristwch mawr, mae Run 4 Wales yn cadarnhau marwolaeth un o gyfranogwyr Hanner Marathon Caerdydd eleni.
"Aeth y tîm brys meddygol at y rhedwr ar unwaith ar y llinell derfyn cyn cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, lle bu farw’n ddiweddarach."
Dywedodd llefarydd ar ran Run 4 Wales: “Mae hon yn drasiedi ofnadwy ac mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd allan i deulu’r rhedwr.
“O ran teulu’r cyfranogwr ar yr adeg anodd hon, ni fydd unrhyw fanylion pellach yn cael eu rhyddhau.”