Marwolaethau Caerdydd: Ymchwiliad yr heddlu'n parhau
Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio yn dilyn marwolaeth "sydyn" dyn a dynes yn ardal Trowbridge yng Nghaerdydd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yng Nghilgant Morfa am tua 14.50 ddydd Sadwrn.
Dywedodd y llu bod teulu'r dyn a'r ddynes wedi cael gwybod am eu marwolaethau.
Ychwanegodd Heddlu De Cymru nad oedd y cyrff wedi eu hadnabod yn ffurfiol hyd yma, ond y gred yw mai cyrff dynes 72 oed a dyn 74 oed.
"Mae eu perthnasau agosaf yn cael eu cefnogi ac mae ymchwiliad i achos ac amgylchiadau eu marwolaethau yn cael ei gynnal ar hyn o bryd," medda'r llu.
"Bydd adnabyddiaeth ffurfiol ac archwiliadau post-mortem yn cael eu cynnal maes o law."
Ychwanegodd y llu eu bod yn diolch i’r gymuned leol "am ei hamynedd a’i dealltwriaeth" tra bod eu hymchwiliad yn parhau.