Cyn-AS Llafur Cymru ddim yn diystyru ymuno â Phlaid Cymru
Mae un o gyn Aelodau Seneddol Llafur Cymru wedi dweud na fyddai yn diystyru ymuno â Phlaid Cymru yn y dyfodol.
Roedd Beth Winter yn AS Cwm Cynon ond ni chafodd ei dewis gan ei phlaid ar gyfer sedd newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf yn yr Etholiad Cyffredinol.
Wrth gael ei holi ar raglen arbennig Y Byd yn ei Le: y flwyddyn a fu ar YouTube dywedodd y byddai “efallai” yn ystyried ymuno â Phlaid Cymru.
“I fi, dwi jesd moyn gweld Cymru gwell gyda mwy o ddatganoli,” meddai wrth gael ei holi gan y cyflwynydd Catrin Haf Jones.
“Dyw e ddim am unigolion yn fy marn i.”
Wrth gael ei holi a fyddai yn gallu gweithio tan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, dywedodd: “Rwy’n fodlon gweithio gydag unrhyw un sy’n cynnig Cymru mwy cyfartal, gwyrddach, tegach, ac sydd moyn Cymru sosialaidd.
“Mae gwleidyddiaeth yn fy nghalon i. Dydw i ddim yn edrych am pŵer.”
Gadawodd Beth Winter y Blaid Lafur fis diwethaf gan ei gyhuddo o “agenda gwleidyddol trawsarglwyddol (authoritarian)”.
Dywedodd mai amcan presennol y blaid oedd "cadw'r status quo neoliberal, gwasanaethu buddiannau corfforaethol ac amddiffyn y dosbarth rheoli".
Wrth drafod twf plaid Reform ar Y Byd yn ei Le dywedodd nad oedd yr un blaid yn cwrdd â dyheadau pobl Cymru.
“Does dim plaid yn fy marn i ar hyn o bryd yn cynnig y gobaith sosialaidd yn fy marn i,” meddai.
“Mae gwleidyddion wedi gadael pobl i lawr yng Nghymru, fel dros y gwlad i gyd.”
Gwyliwch Y Byd yn ei Le: y flwyddyn a fu ar YouTube fan hyn.