Galw ar bobl i gofrestru i dderbyn negeseuon am rybuddion llifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl ledled Cymru i gofrestru i dderbyn negeseuon testun am rybuddion llifogydd.
Mae'r negeseuon testun yn cael eu danfon i ffônau symudol pan fydd rhybudd mewn grym yn eu hardal.
Mae CNC yn galw ar bobl i gofrestru fel rhan o'u hymgyrch 'Barod am Lifogydd'.
Bwriad yr ymgyrch yw rhoi cyngor hanfodol am yr hyn y dylai pobl ei wneud os ydynt yn byw mewn ardal lle mae perygl lifogydd.
Mae'r corff eisiau i bobl gymryd camau nawr er mwyn helpu i ddiogelu eu cartrefi rhag effeithiau dinistriol llifogydd yn y dyfodol.
Roedd 12 o stormydd yn ystod 2023/24. Dyma'r nifer uchaf o stormydd ers i stormydd gael eu henwi yn 2015.
'Wnaiff hynny ddim digwydd i fi'
Mae un o bob saith cartref a busnes yng Nghymru yn wynebu perygl llifogydd.
Yn ôl Pennaeth Rheoli Peryglon Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru gall llifogydd effeithio ar unrhyw un.
"Rydyn ni'n clywed y geiriau, 'Wnaiff hynny ddim digwydd i mi' yn aml iawn," meddai Jeremy Parr.
"Ond o ran llifogydd, gall meddylfryd o'r fath arwain at ganlyniadau difrifol. Gall llifogydd ddinistrio cartrefi, amharu ar fywoliaeth unigolion ac effeithio ar iechyd meddwl a llesiant yn barhaol.
"Er nad ydyn ni'n gwybod sut dywydd a gawn y gaeaf hwn, bydd angen i bob un ohonom fod yn barod i gymryd camau lle bynnag y bo angen."
Ar hyn o bryd, mae modd derbyn gwybodaeth am rybuddion llifogydd drwy gysylltu â Floodline.
Dan y cynllun hwn bydd pobl yn gallu mynd ar-lein i reoli eu cyfrifon eu hunain a phersonoli eu dewisiadau o ran rhybuddion – gan ddewis y negeseuon y maen nhw eisiau derbyn yn y Gymraeg neu yn Saesneg.
Byddant hefyd yn gallu dewis y dull cyfathrebu, (e-bost, negeseuon llais neu negeseuon testun) a nodi ardaloedd eraill o ddiddordeb, fel ardal eu busnes neu gartref aelod o'r teulu.
Mae tair lefel o rybuddion llifogydd:
Llifogydd – mae llifogydd yn bosibl ac yn fwyaf tebygol o effeithio ar deithio a thir hamdden (fel parciau) neu ffermdir.
Rhybuddion Llifogydd – dylech ddisgwyl gweld llifogydd yn effeithio ar dai a busnesau.
Rhybuddion Llifogydd Difrifol – ceir perygl o lifogydd difrifol a risg i fywyd.